Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Elfen amlycaf yr ystafell fyw yn Nhrecastell ger Llangoed, Môn, yw’r lle tân mawr a phlaen a’r offer helaeth sydd yno ar gyfer cyflawni tasgau ymarferol beunyddiol. Wrth yr aelwyd ceir amryw o’r pedyll mawr a’r tegellau a ddefnyddid wrth goginio. Ar silff i’r chwith o’r prif grât ceir stof wersylla sy’n llosgi nwy i gynhesu’r canistr dŵr. Mae’r tap arno’n fodd i gael dŵr poeth heb fod angen cynnau’r prif dân. Mae’n fwy na thebyg mai lein i i sychu dillad arni yw’r weiren denau sy’n hongian uwchben y lle tân.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw