Skip to main content

Plas Newydd, Llangollen

Disgrifiadau

Symudodd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby i mewn i'r bwthyn bach carreg o'r enw Pen y Maes yn 1780, ar ôl rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu u teuluoedd yn yr Iwerddon rhyw ddwy flynedd ynghynt. Ar ôl iddynt ei ail-enwi yn Plas Newydd fe wnaedgwelliannau helaeth i'r tŷ a chrewyd gerddi newydd yn ogystal. Fe wnaeth 'Merched Llangollen' brynu'r tŷ o'r diwedd yn 1819 a buont yn byw yno hyd eu marwolaeth yn 1829 ac 1831. Dros y blynyddoedd, daethant yn adnabyddus fel cymeriadau ecsentrig, a oedd fel arfer gwisgo gwisg merlota dywyll, a chroesawyd nifer o enwogion i'w cartref ganddynt, gan gynnwys Dug Wellington, Syr Walter Scott a William Wordsworth. Ar ôl marwolaeth y Ledis, prynwyd Plas Newydd gan ddwy ferch arall, Amelia Lolley and Charlotte Andrew, a geisiodd efelychu ffordd o fyw Merched Llangollen. Yn 1861, prynwyd Plas Newydd gan Mrs Robina Couran a fu'n byw yno am 15 mlynedd cyn ei werthu i Richard Lloyd Williams o Ddinbych, a benderfynodd ei werthu rhyw fis neu ddau yn ddiweddarach i'r Cadfridog John Yorke. Y Cadfridog Yorke oedd yn gyfrifol am ychwanegu'r gwaith coed du a gwyn, gan adeiladu asgell orllewinol ac agor yr ystafelloedd hŷn i'r cyhoedd. Ar ôl ei farwolaeth yn 1890, gwerthwyd Plas Newydd mewn ocsiwn ac fe'i trosglwyddwyd o'r naill berchennog i'r llall, cyn iddo ddod o dan berchnogaeth Cyngor Dosbarth Trefol Llangollen yn 1933; dyma pryd yr agorwyd y tŷ cyfan i'r cyhoedd. Yn 1963, bu i'r Cyngor ddymchwel yr adain ddwyreiniol a'r adain orllewinol, gan adael Plas Newydd yr un maint ag yr oedd pan agorwyd ef gan y Ledis. Heddiw, mae'n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych, ac mae ar agor i'r cyhoedd.

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
8/5/2012
Gwelediadau:
1619
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment