Lynette Roberts
Disgrifiadau
Lynette Roberts (1909 - 1995) yw un o feirdd a thraethodwyr y rhyfel mawr mwyaf arwyddocaol yng Nghymru. Yn ferch i rieni Cymraeg ganed Lynette yn Buenos Aires ond daeth y teulu i Gymru a setlo yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y 1940au cynnar. Dyma'r cyfnod y dechreuodd Roberts gyhoeddi ei barddoniaeth a'i rhyddiaith. Rhoddwyd canmoliaeth mawr i waith Roberts gan T.S.Eliot a Robert Graves. Yn un o gyfoedion Alun Lewis a Dylan Thomas, ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i gwaith yn ystod yr Ail Rhyfel Byd tra'n byw yn Llanybri. Ni roddwyd llawer o sylw i'w gwaith a bu allan o brint am dros hanner canrif, ond mae ei barddoniaeth a'i rhyddiaith bellach wedi eu hail gyhoeddi gan Carcanet yn y casgliadau canlynol: Lynette Roberts' Collected Poems (2005) a Diaries, Letters and Recollections (2008) (golygwyd gan Patrick McGuinness).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment