Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan gan gynnwys yr Apocryffa yn y flwyddyn 1588. Gwaith William Morgan, 1545-1604, ydoedd, gŵr a aned ym Mhenmachno, Conwy ac a raddiodd o Goleg Ieuan Sant yng Nghaergrawnt. Argraffwyd y gyfrol ffolio hon mewn llythyren ddu gan ddirprwyon Christopher Barker, Argraffydd i'r Frenhines, ac fe'i bwriadwyd i'w defnyddio mewn eglwysi yn hytrach nag yn y cartref. Gallwch weld y Beibl gyfan ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: http://www.llgc.org.uk/index.php?id=292&L=1

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw