Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Er taw ym Manceinion y ganwyd David Lloyd George, Llanystumdwy yn Eifionydd fu ei "gartref" erioed. Dyma fro mebyd ei fam. Yma y bu'n byw o pan yn flwydd oed hyd yn ddwy ar bymtheg. Ac yn ysgol eglwysig Llanystumdwy yr ymladdodd ei frwydr gyntaf yn y rhyfel dros "ryddid crefyddol" pan drefnodd brotest yn erbyn dweud y Credo a'r Catecism. Gadawodd yr ysgol ym mis Gorffennaf 1878 pan ddywed y llyfr lg ei fod yn mynd i'w hyfforddi yn dwrnai. Tynnwyd y ffotograff yma gan gwmni Wickens o Fangor.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw