Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ceisiai David Lloyd George, fel Canghellor y Trysorlys, sicrhau fod digon o arian yng nghoffrau'r wlad i ymladd yn effeithiol. Yn dilyn ar ei brofiad fel Llywydd y Bwrdd Masnach cafodd lawer i'w wneud wrth geisio cael newidiadau ym myd diwydiant fyddai'n caniat�u cyflenwi anghenion y lluoedd arfog yn fwy effeithiol. Erbyn dyfodiad llywodraeth glymblaid yn 1915 yr oedd Lloyd George wedi mynd ati i geisio creu Adran Arfau er mwyn sicrhau fod digon o arfau i ymladd y rhyfel. Ym mis Mai 1915 cafodd ei apwyntio yn Weinidog dros Arfau.Gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ceisiai David Lloyd George, fel Canghellor y Trysorlys, sicrhau fod digon o arian yng nghoffrau'r wlad i ymladd yn effeithiol. Yn dilyn ar ei brofiad fel Llywydd y Bwrdd Masnach cafodd lawer i'w wneud wrth geisio cael newidiadau ym myd diwydiant fyddai'n caniatau cyflenwi anghenion y lluoedd arfog yn fwy effeithiol. Erbyn dyfodiad llywodraeth glymblaid yn 1915 yr oedd Lloyd George wedi mynd ati i geisio creu Adran Arfau er mwyn sicrhau fod digon o arfau i ymladd y rhyfel. Ym mis Mai 1915 cafodd ei apwyntio yn Weinidog dros Arfau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw