Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Priododd David Lloyd George â'i wraig gyntaf, Margaret Owen, yn 1888. Cawsant bump o blant: Richard (1889), Mair (1890, bu farw yn 1907), Olwen (1892), Gwilym (1894) a Megan (1902). Nid oedd Dame Margaret yn medru dygymod â bywyd yn Llundain Seisnig, mewn gwirionedd yr oedd yn cas�u'r lle. Er iddi fyw yn Rhif 11 ac Rhif 10 Stryd Downing, yng Nghricieth yr oedd ei chalon a'i chartref. Cadwai hyn y ddau ar wahân yn ddaearyddol ac arweiniodd hyn at arwahanrwydd yn eu perthynas â'i gilydd. Eto i gyd ni fu gwahanu swyddogol a llai fyth ysgariad, ac er blynyddoedd o ymddieithrio yn 1938 dathlwyd eu priodas aur ar wyliau yn Antibes. O blith y plant ei berthynas gyda Megan oedd yr agosaf ac fe gefnogodd yn llwyr ei gyrfa wleidyddol.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw