Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ymddiswyddodd David Lloyd George fel Prif Weinidog ym mis Hydref 1922 wedi i'r glymblaid rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr ddadfeilio. Roedd e'n 59 mlwydd oed ar y pryd ac nid oedd i ddod yn agos at unrhyw swydd o awdurdod byth eto. Wedi gadael swydd y Prif Weinidog a llywodraeth ceisiodd Lloyd George ail-adeiladau'r Blaid Ryddfrydol. Yr oedd honno erbyn hyn mewn sefyllfa druenus iawn. Yn Etholiad 1923 enillodd 157 sedd, yn Hydref 1924 ni enillodd ond 40 sedd. Er ail-uno ni ddaeth diwedd ar y chwerwder personol rhwng carfan Lloyd Geroge a charfan Asquith, chwerwder a ganolbwyntiai'n aml iawn ar gronfa wleidyddol bersonol Lloyd George. Trwy'r 1920au ceisiodd yntau adfywio'r blaid trwy gyflwyno polisau newydd yn gyson ar faterion fel diwydiant, y tir, ynni a diweithdra. Yn Etholiad Cyffredinol 1929 ymgyrchodd Lloyd George yn galed ar y polisau newydd hyn, ond ni ennillodd y Rhydfrydwyr ond 59 sedd. Erbyn Etholiad Cyffredinol 1931 yr oedd y mwyafrif o'r Blaid Rhyddfrydol wedi troi cefn arno gan ei adael ond yn arweinydd ar grwp o bedwar aelod "teuluol"- ef ei hun, Megan (ei ferch), Gwilym (ei fab) a Goronwy Owen (brawd-yng-nghyfraith Gwilym).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw