arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Ffotograff o Bethan Parry, Llythyrdy Capel Celyn, yn hyfforddi Eurgain ac Euron Prysor Jones, Ty'n y Bont.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw