Skip to main content

33-37 Stryd Clwyd, yn dyddio’n ôl i’r 16g

Disgrifiadau

Roedd yr adeilad hwn unwaith yn dŷ tafarn o'r enw'r Red Lion, lle bu bron i ddienyddiwr ddod i ddiwedd ei oes cyn ei amser. Cafodd dyn o'r enw John Connor ei ddienyddio yn Rhuthun am ladrad ar y briffordd ar Ebrill15fed 1822. Samuel Burrows oedd y dienyddiwr, crogwr Caer. Y noson cyn y dienyddiad roedd yn aros yn y Red Lion lle cafodd ei berswadio gan ei gyd-noddwyr i ddangos y broses o grogi person. Gan glymu ei raff i'r nenfwd fe ddangosodd iddyn nhw sut i glymu'r ddolen ac fe'i rhoddodd am ei wddw ei hun. Fe giciodd dyn o'r enw Henry Caddock y stôl o dan draed y crogwr ac fe fyddai wedi crogi pe na bai Thomas Humphreys wedi torri'r rhaff yn sydyn.

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/2/2012
Date originally created:
1/1/1500 - 1/1/1600
Gwelediadau:
1131
Ffefrynnau:
1

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment