Skip to main content

Tîm Clwb Rygbi Abertawe, 1888-89

Disgrifiadau

Tîm Clwb Rygbi Abertawe tymor 1888-89. Chwaraewyd 28 gêm. Enillwyd 13. Collwyd 9. Cyfartal 6. Pwyntiau 183. Pwyntiau yn eu herbyn 145. Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: George Bowen, W H Jones, -?-, William Bowen, W McCutcheon, Tom Williams. Ail res: Frank Purdon, W H Towers (Capten), E Thorogood, W H Howells. Rhes flaen: W H Gwynn, David Dwynn, D Morgan. Ar 24 Rhagfyr 1888 chwaraeodd Maoris Seland Newydd gêm yn Sain Helen a churo Abertawe 11-0. Dyma'r tro cyntaf i dîm deithio i Brydain a dechreuodd Abertawe draddodiad o dimau'n ymweld â nhw. Nid Maoris oedd aelodau'r tîm i gyd. Y capten oedd J A Warbrick, un o 5 brawd a chwaraeodd i'r tîm. Arweiniodd capten Abertawe, Billy Towers, yn erbyn y Maoris, ac enillodd yr ail o'i ddau gap Cymreig ddeuddydd yn gynharach pan gurodd Cymru'r Maoris o 5-0.

Owner:
Swansea Rugby Football Club
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Swansea Rugby Football Club
Copyright Details:
Swansea Rugby Football Club
Publisher Ref:
CNA20701
Eitem wedi’i llwytho:
1/2/2012
Date originally created:
1/1/1888 - 31/12/1888
Gwelediadau:
886
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment