Tîm Pêl-droed Abertawe, enillwyr Cwpan Her De Cymru, 1886-87
Disgrifiadau
Tîm Pêl-droed Abertawe, enillwyr Cwpan Her De Cymru, 1886-87. O'r top i'r gwaelod ac o'r chwith i'r dde: George James; Samuel Goldsworthy; George Bowen; George Lockwood Morris; W. H. Jones; Tom Williams; David Gwyn; W. H. Howells; E. S. Richards (Capt.); E Thorogood; William Bowen; W. H. Gwynn; Ed. Bishop; W. H. Towers; J. Meredith; David Morgan. Dyma'r llun cynharaf o dîm Abertawe, ond yn collage yn hytrach na llun o aelodau'r tîm gyda'i gilydd. Dyma'r tro olaf o bedwar i Abertawe ennill y Cwpan Her a ddechreuwyd gan Glwb Pêl-droed De Cymru i hyrwyddo'r gêm. Dyma'r tro olaf i'r timau gorau yng Nghymru gystadlu am y cwpan, er cafodd ei ailgyflwyno i'r adrannau is ym 1889.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment