Skip to main content

Yr olygfa o Alltegfa

Disgrifiadau

Golygfa o Alltegfa, trefgordd ar gyrion Rhuthun, tua Chlocaenog. Roedd hwn yn safle dienyddio cyhoeddus cyn y 19g. Mae'n bosib fod yr enw Galltegfa'n tarddu o Gallt-y-Dagfa, sy'n golygu Bryn y Tagu. Y person olaf i'w grogi yn y safle oedd dynes o'r enw Alice Clarke o Wrecsam. Cafodd ei dedfrydu i farwolaeth am lofruddio ei merch fach a oedd yn fabi ac fe'i dienyddwyd ar Ebrill 13eg 1801. Fe aethpwyd â hi i Alltegfa mewn trol a oedd yn cynnwys ei harch hi ei hun ac wedyn fe'i claddwyd y tu ôl i Eglwys Llanfwrog.

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
27/1/2012
Date originally created:
1/1/1700 - 1/1/1801
Gwelediadau:
1435
Ffefrynnau:
1

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment