Llythyr oddi wrth Mary Granville at ei chwaer yn disgrifio cyfarfod gyda Jonathon Swift, Hydref 1733 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn mae hi'n trafod ei chymhlethdod ynghylch trafodaeth sydd yn cael ei chynnal ymhlith diwinyddwyr. Mae'r diwinyddwyr wedi bod yn trafod a yw bwyta gwaed yn mynd yn groes i gyfraith Duw.
Ganed Mary Granville (1700-1788) yn Coulston, Swydd Wiltshire, yn ferch i deulu aristocrataidd a dylanwadol. Priododd Alexander Pendarves, Aelod Seneddol oedrannus, ym 1718 ond bu yntau farw ym 1725 a symudodd Mary i Lundain lle daeth yn wyneb cyfarwydd ar achlysuron cyhoeddus a chymdeithasol. Ym 1743 priododd Patrick Delany, clerigwr o'r Iwerddon. Bu farw ym 1788 yng Nghastell Windsor. Yn ystod ei bywyd ysgrifennodd Mary nifer fawr o lythyrau at ei ffrinidiau a'i theulu. Cafodd y llythyrau hyn eu cyhoeddi a'u golygu mewn chwe chyfrol ym 1861-2 gan ei gor-nith Arglwyddes Llanofer (Augusta Hall, neé Waddington) (1802-96).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment