Skip to main content

Llythyr oddi wrth Mary Granville at ei chwaer ar achlysur coroni Siôr II, 11 Hydref 1727 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Yn y llythyr hwn, mae Mary Granville (Mrs Delany yn ddiweddarach) yn mynegi ei theimladau ynghylch seremoni goroni'r Brenin Siôr II. Roedd Mary yn bresennol yn y seremoni. Ar y tudalen hwn mae hi'n trafod y dillad ffasiynol a oedd yn cael eu gwisgo yn Neuadd Westminster yn y wledd a ddilynodd y seremoni.

Ganed Mary Granville (1700-1788) yn Coulston, Swydd Wiltshire, yn ferch i deulu aristocrataidd a dylanwadol. Priododd Alexander Pendarves, Aelod Seneddol oedrannus, ym 1718 ond bu yntau farw ym 1725 a symudodd Mary i Lundain lle daeth yn wyneb cyfarwydd ar achlysuron cyhoeddus a chymdeithasol. Ym 1743 priododd Patrick Delany, clerigwr o'r Iwerddon. Bu farw ym 1788 yng Nghastell Windsor. Yn ystod ei bywyd ysgrifennodd Mary nifer fawr o lythyrau at ei ffrinidiau a'i theulu. Cafodd y llythyrau hyn eu cyhoeddi a'u golygu mewn chwe chyfrol ym 1861-2 gan ei gor-nith Arglwyddes Llanofer (Augusta Hall, neé Waddington) (1802-96).

Owner:
Newport Community Learning and Libraries
Crëwr:
Granville, Mary
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Dysgu Cymunedol a Llyfrgelloedd Casnewydd
Copyright Details:
Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Casnewydd 1970
Publisher Ref:
GTJ31202
Eitem wedi’i llwytho:
9/12/2011
Date originally created:
12/10/1727
Gwelediadau:
1596
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment