Y Bwa Dur ym Melin yr Afr, Gweithfeydd Dowlais, 1912
Disgrifiadau
Pan ymwelodd Brenin Siôr V a Brenhines Mary â Gweithfeydd Dur Dowlais ar 27 Mehefin 1912, cerddodd y ddau o dan y 'Y Bwa Lo' a oedd wedi'i adeiladu'n arbennig gan grefftwyr Gweithfeydd Dowlais ar gyfer yr achlysur. Bu Côr Meibion Penywern yn diddanu'r cwpl Brenhinol yn ystod eu cinio yn Nhŷ Dowlais. Wedyn aeth yr ymwelwyr yn eu blaenau i weld haearn crai yn cael ei dapio a chydrannau yn cael eu cynhyrchu ar gyfer Rheilffordd Uganda, ymhlith prosesau eraill.
Wedi cwblhau eu hymweliad â'r gweithfeydd aeth y Brenin a'r Frenhines allan i Brif Stryd Dowlais drwy giât y "Goat Mill" a oedd wedi'i addurno ar ffurf porth gorfoledd, wedi'i blethdorchu â chydrannau a oedd wedi'u gweithgynhyrchu, sy'n cynnwys rheiliau dur a thrawstiau dur wedi'u plygu yn wahanol siapau. Ffurfiwyd yr angor a'r coronau yn defnyddio darnau gwastraff y Rheilffordd wedi'u llathru ac roedd model o'r ffatri ffwrnais chwyth newydd yn y canol. Tywod a graean mâl ar ffurf angor oedd y llwybr.
Ffynhonnell:
Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful (1991) "Valley views, book 3: industrial life of the valley."
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment