Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Frank Smale o Gaerdydd yn y Llynges Frenhinol yn y Rhyfel Mawr, gan wasanaethu fel is-swyddog ar HMS Bellerophon yn ystod 1916 (gan gynnwys brwydr forwrol Jutland ar 31 Mai). Tynnwyd y lluniau hyn ar fwrdd HMS Benbow pan ymwelodd y Brenin Sior V â'r Llynges ym 1916. (Roedd HMS Bellerophon a HMS Benbow yn rhan o'r '4th Battle Squadron' - 4BS). Dywed yr arysgrifen ar y lluniau 'King's visit to the Fleet, 1916'; 'Ships' companies of 4BS on board HMS Benbow for march past'; 'Cheering the King as he left Benbow'; 'Quarter deck of Benbow'; King with captains of 4BS on Quarter Deck of Benbow'; 'King George V with Vice-Admiral Sturdee following'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw