Skip to main content

Llun o Moses Roberts

Disgrifiadau

Ganwyd Moses Roberts yn Nglan Llyn, Cefn Brith, Uwchaled yn 1893. Fe ymunodd ei frawd Bob â'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol (Royal Welch Fusiliers) ym 1914, gan gael ei ddanfon yn fuan iawn yn Ffrainc.Ymunodd Moses â'r fyddin ym mis Tachwedd, 1915 ac fe ymunodd brawd arall, Aron, o fewn wythnos. Gwasanaethodd Moses yn gyntaf gyda'r RWF, yna gyda'r Labour Corps a'r RAMC (Royal Army Medical Corps). Dengys y llun hwn Moses yn iwnifform gan gwisgo cap â bathodyn sy'n edrych fel un yr ASC. Ysgrifennodd ei atgofion am ei fywyd yn 1979 pan yn 86 oed, ac fe'u cyhoeddwyd yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych yn 2007. Yn hwn mae'n sôn am fwynhau'r cyfnod o hyfforddi ym Mae Kinmel, ac yna: "Symudais o Kinmel i Wrecsam ac yno eto cefais y caredigrwydd mwyaf.Er gofid i mi symudais o Wrecsam i Groesoswallt ac nid oes gennyf air da am y lle. Dymunem am gael ein symud i rywle ac felly y bu, a hynny i Ffrainc ym mis Mawrth 1916. Wel! dyna yw uffern - mae pob rhyfel yn uffern. Bûm yno tan ddaeth y Cadoediad ar Dachwedd yr unfed ar ddeg. Bu raid imi aros tan fis Mawrth 1918 [1919 siwr o fod]. Diolch oeddwn am gael dod adref a hefyd Bob ac Aron o'r heldrin fawr. ... Yr oedd llawer o sôn am angylion 'Mons' a rhyw dacle yn gwneud arian mawr yn gwerthu'r cardiau a darluniau o'r angylion. 'Roeddwn yn ffieiddio at y fath beth, gan na welais i yr un angel pan yn Ffrainc ond mi welais gythreuliaid, ie, a hynny mewn bodau dynol, y crach swyddogion nad oedd rhai ohonynt yn deilwng i ddatod carai fy esgidiau."

Owner:
Manon Jones
Crëwr:
Manon Jones
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Publisher Ref:
WVP00902
Eitem wedi’i llwytho:
16/11/2011
Date originally created:
1/6/1916 - 11/11/1918
Gwelediadau:
716
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment