Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed Tom Jones (1908-90) yn Sir Gaerhirfryn ond cafodd ei fagu ym mhentref glofaol Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Ym 1937 aeth i Sbaen ac ymunodd â'r Brigadau Rhyngwladol i ymladd ar ochr Llywodraeth Weriniaethol Sbaen yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (1936-9). Ymunodd dros 2350 o wirfoddolwyr â Bataliwn Prydeinig y Brigadau Rhyngwladol gan ymladd mewn nifer o frwydrau mawr y rhyfel. Yn y frwydr olaf ar lannau Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, anafwyd Jones a chafodd ei ddal gan y Ffasgwyr. Roedd ei deulu o'r farn ei fod wedi cael ei ladd, ac yn wir cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd i 30 mlynedd o garchar. Yn y pendraw, cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1940 yn dilyn cytundeb rhwng llywodraethau Prydain a Sbaen. Yn dilyn hyn, cafodd Tom Jones ei alw yn 'Twm Sbaen'.

Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, dechreuodd Jones chwarae rhan weithgar yn y mudiad llafur. Cafodd ei benodi'n swyddog llawn-amser gydag Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol (TGWU) yng ngogledd Cymru ac ym 1953, fe'i benodwyd yn ysgrifennydd yr undeb yn rhanbarth gogledd Cymru, gan olynu Huw T. Edwards. Yn dilyn uno rhanbarthau gogledd a de Cymru, daeth Jones yn ysgrifennydd ar yr undeb yng Nghymru. Arhosodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad ym 1973.

Ffynhonnell: Gwyn Jenkins, 'Obituary: Tom Jones (1908-90)', 'Llafur', cyf. 5, rhif 4 (1991), 109.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw