Merched y ffatri arfau yn Y Fferi Isaf, tua'r flwyddyn 1915
Merched y ffatri arfau yn Y Fferi Isaf, tua'r flwyddyn 1915
Disgrifiadau
Roedd 7,000 o bobl yn gweithio yn ffatri arfau Ei Mawrhydi yn Queensferry pan oedd y gwaith yn ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Merched oedd mwyafrif y staff cynhyrchu. Roedd y ffatri'n arbenigo ym maes ffrwydron a 'gun cotton', ac roedd y deunyddiau hyn yn beryglus iawn i iechyd a diogelwch y gweithwyr. O ystyried y peryglon hyn, mae'n rhyfeddol mai pedwar yn unig o'r gweithwyr a gollodd eu bywydau o ganlyniad i ddamweiniau yn y ffatri. Eto i gyd, roedd anafiadau difrifol, llosgiadau a salwch yn gyffredin iawn ac yn ystod 1917-18 cofnodwyd dros 12,500 o ddamweiniau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment