Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae’r daflen hon yn defnyddio geiriau arweinydd y Siartwyr o’r 19eg ganrif, Feargus O’Connor, ac yn pwysleisio pwysigrwydd undod ddoe a heddiw. Mae'n cymharu sefyllfa'r gweithiwr yn 1839 pan oedd y chwyldro diwydiannol ar ei anterth â 1984 pan oedd diwydiant ar drai. Mae'n galw am Siarter y Bobl ar gyfer adnewyddu cymdeithas a chreu cyflogaeth lawn. Rhan o'r cynllun hwn oedd tynnu'r holl gynlluniau i gau pyllau glo yn ôl a dechrau rhaglen newydd o foderneiddio a thechnoleg uwch ar gyfer y diwydiant glo. Eto gan ddefnyddio hanes mudiad y Siartwyr, bydd gorymdaith arall ar hyd llwybr gorymdaith 1839 i Gasnewydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw