Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Copi printiedig o araith Ann Clwyd ar dudalennau 267-68 o'r llyfryn Y Ddefnyddir Ieithoedd Llai y Gymuned Ewropeaidd (Adroddiad Arfe).Yn seiliedig ar ymgynghori ac ymchwil a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 1979 ac yn Chwefror 1981 dan arweiniad Gaetano Arfé. Cafodd yr Adroddiad Arfe ei lunio ar ran y Pwyllgor ar Ieuenctid, Diwylliant, Addysg, Gwybodaeth a Chwaraeon ar Siarter Cymuned o ieithoedd a diwylliannau rhanbarthol a siarter o hawliau lleiafrifoedd ethnig. Ym mis Hydref 1981 mabwysiadodd y Senedd Ewrop penderfyniad yn seiliedig ar y cynigion - y Penderfyniad Arfe.Gwnaeth yr adroddiad argymhellion ar gyfer llywodraethau cenedlaethol ac awdurdodau lleol ar addysg ac addysgu ieithoedd rhanbarthol, cyfathrebu torfol gan gynnwys mynediad i radio lleol a theledu, bywyd cyhoeddus a materion cymdeithasol gan gynnwys defnyddio ieithoedd mewn bywyd cyhoeddus ac mewn llysoedd ac chyrff swyddogol. Roedd yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i sefydlu prosiectau peilot ac i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau i gefnogi diwylliannau rhanbarthol a gwerin.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw