Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn y llythyr hwn, dyddiedig 29 Medi 1944, mae Kenny yn pwyso a mesur ei brofiadau yn Ffrainc a Gwlad Belg yn ystod y naw wythnos diwethaf. Disgrifia'r profiad gwefreiddiol o gyrraedd y trefi a'r pentrefi sydd newydd eu rhyddhau. Esbonia sut yr oedd y dorf yn eu croesawu drwy weiddi a thaflu ffrwythau, rhubanau, baneri ac anrhegion o bob math. Disgrifia'r merched lleol ac esbonia fod rhai o'r dynion wedi dod yn gyfeillgar â hwy, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yr Uwch-sarsiant. Dywed Kenny eu bod bellach yn wynebu cyfnod anoddach gan fod y fyddin Almaenig yn ymosod arnynt. Mae'n parhau i wasanaethu fel cyfieithydd gan fod nifer o drigolion Gwlad Belg yn siarad Ffrangeg. Ar ddiwedd y llythyr, mae Kenny yn troi ei olygon tuag adref ac yn cymharu sŵn aflafar y band a glywodd yn ystod dawns yn Ffrainc â sain 'pibau Pan' ei Ewythr Bob.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw