'Laugharne' gan Edward Morland Lewis, c. 1930au
Disgrifiadau
Roedd Edward Morland Lewis (1903-43) yn arlunydd tirluniau yn bennaf ac roedd yn bur llwyddiannus yn ei ddydd. Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin, yn fab ieuengaf i Benjamin Archibald Lewis. Er iddo dreulio ei ddyddiau fel oedolyn yn Lloegr, ac yn Llundain yn bennaf, glannau afonydd a threfi bychain gorllewin Cymru ac Iwerddon oedd cynnwys lluniau Edward Morland Lewis. Dylanwadwyd yn fawr ar ei ddull o weithio gan Walter Richard Sickert. Yn aml, byddai'n cynnwys sylwadau ynghylch y lliwiau ar ei frasluniau a byddent wedi'u sgwario'n barod i'w trosglwyddo i gynfasau mawr. Weithiau byddai hefyd yn tynnu ffotograffau o olygfeydd at yr un diben. Roedd peintiadau gorffenedig Lewis wedi'u gwneud o flociau cryf o liw, dros beintiad isaf lliw cynnes. Erbyn diwedd y 1930au, daeth ei ddefnydd o baent yn fwy rhydd ac arwyneb y paent yn fwy bywiog. Peintiad arall gan Edward Morland Lewis o Dalacharn, o dan y teitl 'The Strand Laugharne, 1931' (Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru) yw ei waith mwyaf adnabyddus. Olew ar fwrdd. Mesuriadau: 24.4cm x 32cm
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment