Skip to main content

'Three Profiles' gan Edward Morland Lewis, c. 1930 (olew)

Disgrifiadau

Roedd Edward Morland Lewis (1903-43) yn arlunydd tirluniau yn bennaf, ac roedd yn bur llwyddiannus yn ei ddydd. Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin, yn fab ieuengaf i Benjamin Archibald Lewis. Roedd ei dad yn arlunydd medrus a arddangosodd yn eang. Derbyniodd Morland ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, ac wedi hynny aeth i Ysgol Gelf Caerfyrddin. Ymunodd ag Ysgolion yr Academi Frenhinol ym 1924. Erbyn 1926 roedd yr arlunydd ifanc yn gweithio fel un o gynorthwywyr Walter Richard Sicket ac fe gafodd yr arlunydd oedrannus hwn ddylanwad mawr ar waith cynnar Lewis. Mae'n bosibl iddo lunio'r astudiaeth hon o dri phen ar gyfer 'The Bandstand', llun a beintiodd sawl fersiwn ohono gan arddangos un fersiwn ym 1931. Olew ar gynfas. Mesuriadau: 30.5cm x 40.2cm.

Owner:
Carmarthenshire County Museum
Crëwr:
Lewis, Edward Morland
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Copyright Details:
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin 2003
Publisher Ref:
GTJ22995
Eitem wedi’i llwytho:
5/8/2011
Date originally created:
1925-1935
Gwelediadau:
1175
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment