Cysur y Sêr 2026
Disgrifiadau
Mae Cysur y Sêr yn brosiect dwyieithog, a arweinir gan y Gymraeg, sydd â ffocws cenedlaethol. Mae’n ymwneud â datblygu straeon yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol effeithiol i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y prosiect yn arwain at berfformiadau Stars and their Consolations ar daith ledled Cymru, fis Mawrth tan fis Ebrill 2026.
Mae adrodd straeon am awyr y nos yn helpu i wneud synnwyr o batrymau cytser mewn ffyrdd sy'n ein cysylltu â'n gorffennol pell a diweddar, ac sy'n ein cyfeirio, mewn daearyddiaeth, amser, y flwyddyn dymhorol a diwylliant. Straeon yw un on ffyrdd mwyaf addasadwy a dibynadwy o drosglwyddo gwybodaeth rhwng cenedlaethau.
Byddwn yn gweithio gyda 10 canolfan ledled Cymru a’u cymunedau. Byddwn yn cydweithio â storïwyr profiadol ac egin storïwyr er mwyn archwilio'r themâu hyn a'r ffyrdd o gydweithio mewn ffyrdd sy'n hygyrch ac yn ymwybodol o'r hinsawdd.
Rydym yn dathlu hunaniaeth unigryw ac amrywiol Cymru fel gwlad sy'n gwarchod ei Hawyr Dywyll a'i diwylliant, gan gofleidio straeon mewn llawer o ieithoedd a threftadaeth wahanol.
Yr artistiaid a ddewiswyd yw Rhodri Trefor a Gillian Brownson o Ynys Môn; Fiona Collins o Ddyffryn Dyfrdwy, Chris Baglin o Glwyd, Ceri Phillips o Landeilo, Hedydd Hughes o Ogledd Sir Benfro; Stacey Blythe o Gaerdydd a Dan Mitchell o Bontardawe. Bydd dau arweinydd prosiect chwedleua yn ymuno â nhw, Tamar Eluned Williams o Gaerdydd a Mair Tomos Ifans o’r Canolbarth.
Mae Cysur y Sêr yn brosiect ledled Cymru dan arweiniad cwmni cynhyrchu adrodd straeon Adverse Camber, gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Elusennol Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment