Interview with Peter Duncan, 12th March 2026
Disgrifiadau
Cyfweliad â Peter Duncan, 12 Mawrth 2026
00:00:01 Belle
Helô, Belle ydw i o Discovery a’r 12 Mawrth 2026 yw hi heddiw a dw i yma gyda Peter yn nigwyddiad pen-blwydd Discovery yn 60 oed.
Helô Peter.
00:00:09 Peter
Helô.
00:00:10 Belle
Fyddech chi gystal â dechrau drwy ddweud wrtha i am eich cysylltiad â Discovery?
00:00:13 Peter
Iawn te, Peter Duncan ydw i a dw i’n hyfforddwr syrcas gymdeithasol. Dw i’n defnyddio’r syrcas i ddysgu pethau i bobl.
Felly, o ran fy nghysylltiad â Discovery, roeddwn i’n weithiwr cymdeithasol yma ar eu cwrs rhwng 1984 a 1985 ac roeddwn i’n rhan o wahanol fathau o wirfoddoli, ond yn bennaf o 1992 sefydlon ni elusen o’r enw Circus Eruption a dim ond ychydig o bobl oeddem ni, ac roeddwn ni am sefydlu syrcas gynhwysol.
Felly bob blwyddyn byddwn ni’n dod ac yn recriwtio myfyrwyr o faes addysg, y blynyddoedd cynnar, a gwaith cymdeithasol i gynnig cyfle iddynt weithio gyda ni yn gwneud syrcas. Felly byddwn yn gwneud y sgiliau syrcas a bydden nhw’n gweithio gyda phobl ifanc a’u cefnogi yn y broses yna.
Roedd yn wych ac yn bwerus iawn o ran magu ein hyder a’n gallu ac enw da’r syrcas.
00:00:57 Belle
Felly a oedd unrhyw brosiectau penodol y gwnaethoch chi gyda’r syrcas?
00:01:01 Peter
Wel, cafodd y syrcas y cyfle i ddatblygu ei hun.
Roeddwn ni’n cael 50 o bobl ifanc yn eu harddegau gydag 20 o wirfoddolwyr yn rheolaidd. Roedd pob math o brosiect a chawsom ni rywfaint o arian gan blant mewn angen a dechreuon ni syrcas i bobl fyddar, syrcas i blant a oedd yn agored i niwed o ran llety, plant â namau, pob math o stwff.
Felly roeddwn ni’n sefydlu llawer o brosiectau cynhwysol a helpodd y gwirfoddolwyr llawer gyda hynny i gyd. Roeddwn ni’n gwneud llawer o stwff llawn hwyl, pethau cynhwysiant o gwmpas y campws, ond yn bennaf mewn ysgol leol.
00:01:32 Belle
Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau yn ystod eich amser yn gweithio gyda Discovery?
00:01:36 Peter
Ydw, mae’n llawer mwy proffesiynol, mae llawer mwy o gydlyniant, mae’r cyfathrebu’n llawer gwell. Mae gwefan nawr, ac yn sicr doedd dim un flynyddoedd yn ôl.
Ie, felly mae llawer mwy o brosiectau.
Rwy’n falch iawn ei fod yn parhau i fod dan arweiniad myfyrwyr, a bod llawer o ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr.
Dw i’n credu ei fod yn sefydliad unigryw oherwydd bod pobl yn dod fel gwirfoddolwyr ac yna maen nhw’n cael y cyfle fel cydlynwyr prosiect, ac yna maen nhw’n cael cyfle i fod yn ymddiriedolwyr myfyrwyr.
Dw i’n credu ei bod hi’n daith anhygoel y gall pobl fynd arni ac mae’r sgiliau hynny yr un mor bwysig ag unrhyw beth byddwch chi’n ei ddysgu fel rhan o’ch gradd.
00:02:08 Belle
A oes unrhyw gyngor gennych i fyfyrwyr sydd eisiau gwirfoddoli?
00:02:12 Peter
Oes, cerwch amdani.
00:02:14 Belle
Pam lai?
00:02:14 Peter
Gwnewch e.
Dw i’n credu y gallwch chi gael eich cloi i mewn i fyd y brifysgol ac astudiaethau a darlithoedd a hynny i gyd.
Ewch y tu allan ac edrych ar beth sy’n digwydd yn y cymunedau o’ch cwmpas. Lledaenwch eich adenydd y tu hwnt i'r stwff academaidd prifysgol caeedig.
Dw i’n credu bod llawer o stwff anodd yn mynd mlaen ac os yw pobl mewn trafferthion dylech chi greu bwrdd hirach, nid wal.
Felly mae angen mynd mas a gwneud pethau.
00:02:38 Belle
Gwych.
Ac i gloi’r cyfweliad te, pe bai gofyn i chi ddisgrifio Discovery mewn un gair, p’un byddech chi’n ei ddefnyddio?
00:02:45 Peter
Un gair?
Gallwn i ddewis cyfle anhygoel.
Ond dau air yw hynny, ond dw i’n credu dyna yw hi. Iawn.
00:02:51 Belle
Wel, diolch o galon i chi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment