Interview with Julia Manser, 12th March 2026
Disgrifiadau
Cyfweliad â Julia Manser, 12 Mawrth 2026
00:00:00 Belle
Helô, Belle ydw i. Dw i o Discovery a heddiw yw 12 Mawrth 2026 a dw i yma gyda Julia yn nigwyddiad pen-blwydd Discovery yn 60 oed.
Felly, Julia, fyddech chi gystal â dechrau drwy ddweud wrtha i am eich cysylltiad â Discovery?
00:00:13 Julia
Ie, helô Belle, Julia Manser ydw i. Dw i’n ymddiriedolwr ar hyn o bryd gyda Discovery. Dw i wedi bod yn ymddiriedolwr ers bron i flwyddyn, felly dw i yn fy mlwyddyn gyntaf o ymrwymiad gyda Discovery, ond dw i wedi bod yn gyfarwydd â Discovery ers amser hir iawn.
Dw i’n gweithio i Gyngor Abertawe i'r Gwasanaeth Gwirfoddol yn yr ardal, a dw i wedi bod gyda nhw ers 22 o flynyddoedd. Felly, mae Discovery wedi bod ar fy radar ers amser hir a dw i’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe. Gwnes i radd ym maes polisi cymdeithasol a graddiais i ym 1999 ac yna gwnes i radd meistr ym maes ymchwil gymdeithasol. Alla i ddim â chofio pryd daeth hynny i ben. Roedd cryn dipyn o amser yn ôl, siŵr o fod cenhedlaeth yn ôl.
Ond roeddwn i’n gwirfoddoli eisoes pan ddes i i Brifysgol Abertawe, felly gwnes i ddim gyda Discovery ar y pryd.
00:01:02 Belle
Felly, fyddech chi’n dweud bod gwirfoddoli wedi cryfhau eich profiad o fod yn fyfyriwr?
00:01:06 Julia
Gwirfoddoli oedd y rheswm am fy mhrofiad fel myfyriwr.
Gwnes i gwrs mynediad i gyrraedd Prifysgol Abertawe, a gwnes i gwrs mynediad oherwydd fy mod i’n weithredwr cymunedol. Roeddwn i’n gwneud llawer yn y symudiad lloches i fenywod ac yn y symudiad tai. A dyna wnaeth fy arwain at y coleg, ac yna i'r brifysgol. Felly, des i drwy lwybr arall, ond yr un math o daith yw hi â myfyrwyr Discovery nawr, dw i’n meddwl.
00:01:36 Belle
Allwch chi ddweud ychydig am eich rôl a’r hyn rydych chi’n ei wneud?
00:01:38 Julia
Ie, mae’n ddiddorol. Dw i wedi bod yn ymddiriedolwr ers tua blwyddyn nawr a hyd yn oed gyda fy mhrofiad o arweinydd gwirfoddoli yn SCVS, doeddwn i ddim yn siŵr mai fi fyddai’r ymddiriedolwr gorau ac, mae’n gamddealltwriaeth rili, am yr hyn sy’n gwneud ymddiriedolwr da. Ond dwi wrth fy modd gyda’r rôl.
Felly, pan fyddwch chi’n dod yn ymddiriedolwr gyda Discovery, rydych chi’n cael llawer o hyfforddiant. Dw i wedi fy mharu gyda Georgia fel cymorth i’m galluogi i fwynhau fy mlwyddyn gyntaf. Ac mae’n fwy na llywodraethu. Nid cyfarfodydd yn unig yw hi. Rydych chi’n helpu i greu a llywio’r sefydliad, a chymryd rôl weithredol, a dyma pam dw i yma heddiw yn mwynhau’r dathliad a sgwrsio gyda’r pwysigion.
00:02:26 Belle
Yn amlwg dw i’n gwybod i chi ddweud i chi weithio yn eich rôl ers amser hir. Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau cyn COVID ac ar ôl hynny?
00:02:35 Julia
Enfawr. Newidiadau mawr o ran gwirfoddoli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o ymchwil wedi creu tirlun newydd ar gyfer gwirfoddoli.
Pan ddechreuais i yn SCVS, roedd gwirfoddoli’n golygu gweithio gyda phobl sydd wedi ymddeol yn bennaf. Roedd rolau a oedd yn ddominyddol iawn. Nawr, mae golwg hollol newydd ar wirfoddoli achos amrywiaeth y gwirfoddoli a’r rolau, diolch byth.
Yr hyn rydyn ni wedi sylwi arno yw, ers COVID, mae gwirfoddoli wedi bod ychydig yn fwy digyswllt. Roedd sôn am argyfwng recriwtio gwirfoddolwyr, ond dw i’n credu mewn termau real, mae’n argyfwng gweithio gyda gwirfoddolwyr ac rydyn ni wedi gorfod newid fel sefydliadau sy’n ymwneud â gwirfoddoli, nid gofyn i wirfoddolwyr newid. Rydyn ni wedi gorfod ffitio o gwmpas gwirfoddolwyr a pheidio â gwneud iddynt ffitio i mewn i gylchoedd sgwâr.
00:03:30 Belle
Felly, yn amlwg dw i’n gwybod bod llawer o fyfyrwyr a phobl ledled y byd wedi profi llawer o ynysiad yn sgil COVID. Ydych chi’n meddwl bod gwirfoddoli, ers COVID, wedi helpu pobl i integreiddio yn y gymdeithas?
00:03:42 Julia
Ydw, ond mae rhai rolau gwirfoddoli wedi newid. Felly mae llawer mwy o wirfoddoli digidol, ac mae llawer mwy o wirfoddoli dros y ffôn. Penderfynodd rhai pobl yn ystod cyfnod COVID ailgynllunio eu gwirfoddoli. Dw i’n credu bod rhywfaint o gymdeithasu a chysylltiad wrth wirfoddoli, a dyw pobl ddim yn siarad llawer am hynny. Rydyn ni’n siarad am fagu sgiliau, ond nid mewn ffordd sy’n sôn am faint o hwyl a chyfeillgarwch gallwch chi eu cael wrth wirfoddoli.
Dw i’n credu bod gwirfoddoli heddiw yn wahanol iawn, a dw i’n credu nad yw hynny’n beth gwael o reidrwydd.
00:04:16 Belle
Dw i’n credu bod llawer o bobl wedi dweud yn gyson yn y cyfweliadau blaenorol pa mor dda yw gwirfoddoli wrth feithrin cysylltiadau a phethau, ond ar sail datblygu sgiliau, ydych chi’n meddwl bod gwirfoddoli neu weithio yn y rôl a wnaethoch chi yn y brifysgol wedi helpu eich gyrfa?
00:04:33 Julia
Ydw, dw i’n bendant wedi gallu siarad am fy mhrofiadau mewn cyfweliadau ac ar ffurflenni cais, yn enwedig yn ystod cyfnod cynnar fy ngyrfa. A nawr, fel ymddiriedolwr Discovery, petawn i’n ymgeisio am swydd arall, byddwn i’n sôn am hynny, yn sicr. A dw i’n meddwl y byddai hynny’n dangos y lefel o brofiad rheoli sydd gen i erbyn hyn. Nid yw fy rôl bob dydd, mewn rhyw ffyrdd, mor uchel â fy rôl fel ymddiriedolwr. Dych chi’n bendant ddim yn achub ar y cyfle os nad ydych chi’n disgrifio'r profiadau rydych chi wedi’u cael o wirfoddoli.
Ac rydyn ni’n gwybod, efallai bod hyd at 80% o gyflogwyr yn awyddus i weld gwirfoddoli ar CV darpar gyflogeion ac ar eu ffurflenni cais, oherwydd ei bod hi’n nodi y bydd llawer o hyfforddiant wedi cael ei gwblhau, bod gan bobl sgiliau gweithio mewn tîm, a’u bod nhw wedi gallu cysylltu â’r gymuned mewn gwahanol ffyrdd. Ac mae hynny’n argoeli’n dda i gyflogwr, ond dyw e?
00:05:33 Belle
Ac i gloi'r cyfweliad, pe bai gofyn i chi ddisgrifio gwirfoddoli neu Discovery mewn un gair, beth fyddai'r gair hwnnw?
00:05:39 Julia
Ysbrydoli.
00:05:40 Belle
A pham mae hynny?
00:05:41 Julia
Rydych chi’n cwrdd â chynifer o bobl ym myd gwirfoddoli drwy bob agwedd arni, boed y staff, yr ymddiriedolwyr, y gwirfoddolwyr eraill, defnyddwyr neu gleientiaid gwasanaeth, beth bynnag mae eich prosiect chi’n eu galw, ac yn syml iawn aelodau o’r gymuned ni fyddech chi wedi dod ar eu traws pe na fyddwch chi wedi bod yn y rôl honno. Ac yna, os ydych chi mewn rhyw fath o gyflogaeth, rydych chi’n cael rhyw syniad o’r byd yn un sy’n eithaf negyddol. Os ydych chi’n wirfoddolwr neu’n rhan o brosiect gwirfoddoli, rydych chi’n cael syniad o’r byd o safbwynt cadarnhaol iawn. Ac felly mae’n eich tanio ac yn eich ysbrydoli, ac yn eich atgoffa chi bod y byd yn lle gwell na’r hyn gallech chi fod yn meddwl.
00:06:24 Belle
Gwych.
Wel, diolch yn fawr am siarad â fi heddiw. Diolch.
00:06:28 Julia
Dim problem. Diolch.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment