Skip to main content

PhotoVoice yn Nhaibach

Disgrifiadau

Cymerodd Ysgol Gynradd Dwyrain ran mewn gweithdy PhotoVoice yn yr ardal o amgylch eu hysgol. Mae Photovoice yn ddull creadigol a chyfranogol sy'n galluogi cyfranogwyr i dynnu lluniau a rhannu straeon cysylltiedig am eu profiad o bwnc penodol a’u gwybodaeth amdano. Aeth grwpiau bach, aelod o staff yr ysgol ac aelod o dîm y prosiect allan i'r gymdogaeth o amgylch yr ysgol, i ateb y cwestiynau canlynol, gan ddefnyddio'r camerâu ar iPads yr ysgol: • “Oes rhywbeth yn yr ardal leol sy'n gwneud i ti deimlo'n falch?” • “Oes rhywbeth yn yr ardal leol yr hoffet ti iddo fod yn well?” Mewn ail weithdy, gofynnodd y plant gwestiynau i'w gilydd fel "beth sy'n cael ei ddangos yma?" a "pham mae hyn yn bwysig i ti?". Cafodd hyn ei recordio i roi cyd-destun i'r lluniau. Wedyn cwblhaodd y plant ymarfer lle aethant ati i flaenoriaethu'r lluniau roedden nhw'n teimlo eu bod yn eu cynrychioli orau. Mae'r lluniau hyn yn amlygu rhai o ganfyddiadau allweddol y gweithdy hwn.

Owner:
Swansea University
Crëwr:
Steeltown Storybook: Children's Chapter
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
10/6/2026
Gwelediadau:
3
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment