Skip to main content

Murluniau Port Talbot: Y Gorffennol. Y Presennol, Y Dyfodol

Disgrifiadau

Murluniau
Fel rhan o'r prosiect, creodd THEW Crew dri murlun sy'n dod â gorffennol, presennol a dyfodol y dref ynghyd mewn ffordd hardd drwy lygaid plant lleol. Mae THEW CREW — casgliad o artistiaid lleol - wedi chwarae rhan hanfodol wrth drawsnewid y syniadau hyn yn dri murlun trawiadol. Meddai Ryan Lee Davies a Matthew Cole o THEW CREW: "Fel bechgyn lleol sydd wedi ein magu yn y gymuned, rydyn ni'n ddiolchgar ein bod wedi cael y cyfle i gymryd syniadau'r plant a'u troi'n ddarn o gelf sy'n cynrychioli gorffennol, presennol a dyfodol ein tref. Fe wnaethon ni geisio llunio'r murluniau drwy lygaid y plant – yn neis, yn lliwgar ac yn hapus, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb yn eu mwynhau."

Y Gorffennol: Gan ddewis elfennau'r cyfweliadau hanes llafar a oedd fwyaf perthnasol i'r plant, mae'r murlun hwn yn amlygu'r gweithfeydd dur oherwydd 'roedd pawb yn gweithio yn y gweithfeydd dur mewn rhyw ffordd', y mynyddoedd lle roedd llawer o'r bobl a gafodd eu cyfweld yn cofio chwarae drwy'r dydd, gan ddychwelyd adref pan roeddent yn medru clywed eu mamau'n galw eu henwau, neu pan nad oedd ganddynt fwyd ar ôl. Mae'r murlun hwn hefyd yn tystio'r safbwyntiau cyferbyniol ynghylch y draffordd: mae rhai pobl yn credu ei bod yn ddinistriol, ond mae gan eraill atgofion hapus o chwarae yn y lle e.e. rhôl-sglefrio drwy'r pileri. Yn yr ystyr hwn, mae'r draffordd yn ficrocosm o'r dref a'r hanesion amrywiol sydd wedi'u hysgrifennu am ein cymuned!

Y Presennol: Mae'r murlun hwn yn adlewyrchu ymdeimlad o falchder plant yr ysgol gynradd leol am yr ardal. Yn ystod ein gweithdy sialc ym mis Mehefin, gwnaeth un plentyn sialcio 'Caru Port Talbot, Y Lle Gorau Yng Nghymru' ar biler - roedden ni'n gwybod bod yn rhaid i ni gynnwys hwn yn ein murlun presennol! Gwnaeth plant eraill ganolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig sydd o'u hamgylch ac y maen nhw'n ei garu, ac roedd hyn yn cynnwys tirnodau megis y bandstand ym Mharc Taibach, y morfil enwog yn Aberafan, a pharciau lleol amrywiol. Mae'n crynhoi eu cariad tuag at y dref a'r cymunedau y maen nhw'n perthyn iddynt.

Y Dyfodol: Roedd y murlun hwn yn defnyddio'r cysyniadau dyfodolaidd ynghylch sut roedd plant yn meddwl y byddai Port Talbot yn edrych ymhen 20 mlynedd. Cafwyd syniad y byddai DJs sy'n estroniaid yn cael parti yn y gweithfeydd dur, bydd pawb yn teithio mewn ceir sy'n hedfan, a bydd ein hadeiladau lleol yn edrych yn fwy 'cŵl'. Mae HOPE yn cydnabod y graffiti sydd eisoes yn bodoli ar bileri drwy'r dref, sef rhywbeth roedd y plant yn aml yn ei gynnwys yn eu lluniau, ond mae hefyd yn arwydd o'u gobaith ynghylch dyfodol y dref.

Owner:
Swansea University
Crëwr:
Steeltown Storybook: Children's Chapter
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
10/6/2026
Gwelediadau:
4
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment