Interview with Carol Shepard, 29th April 2026
Disgrifiadau
Cyfweliad â Carol Shephard, 29 Ebrill 2026
00:00:00 Lauren Golding
Helô, Lauren ydw i o Discovery a 29 Ebrill 2026 yw hi heddiw a dw i yma yng nghwmni Carol Shephard.
Helô Carol.
00:00:06 Carol Shephard
Helô.
00:00:07 Lauren Golding
Allwch chi ddechrau drwy ddweud wrtha i am eich cysylltiad â Discovery?
00:00:10 Carol Shephard
Wel, roeddwn i’n fyfyriwr yn y brifysgol yma yn Abertawe rhwng 1985 a 1989. Roeddwn i’n astudio ieithoedd, felly roeddwn i i ffwrdd yn ystod fy nhrydedd flwyddyn. Ond yn ystod fy ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf, gwirfoddolais i ar brosiect o’r enw... a oedd wedi’i drefnu gan Gelfyddydau i Bobl Anabl yng Nghymru. Alla i ddim â chofio enw'r prosiect. A byddwn i’n dod i wirfoddoli bob bore Sadwrn gyda’r prosiect hwnnw. A hefyd, yn ystod fy mlwyddyn olaf, gwnes i benwythnosau Kids Away.
00:00:39 Lauren Golding
Hyfryd.
Beth oedd eich cyfrifoldebau yn y prosiect Celfyddydau i Bobl Anabl. Hynny yw, pa fath o bethau byddech chi’n eu gwneud?
00:00:46 Carol Shephard
Felly, diben y prosiect oedd y byddai’n integredig. Dyna'r iaith oedd yn cael ei defnyddio yn ystod y 1980au. Felly, roedd Celfyddydau i Bobl Anabl yng Nghymru yn gweithio’n bennaf gyda phobl anabl a dywedodd y person a oedd yn rhedeg y prosiect ar y pryd, wel byddwn i wir yn hoffi iddo gael ei integreiddio gyda phobl heb anableddau hefyd. Ac felly fel myfyrwyr aethon ni gyda nhw fel cyfranogwyr.
Roedd grŵp bach a oedd yn trefnu'r diwrnodau neu'r bore, sef bore Sadwrn o 10 tan 1 a byddwn ni’n gwneud drama, celf a chrefft, collage, gemau cydweithio, y math yna o beth. Ond rôl y myfyriwr ar y pryd oedd troi lan ac ymuno gyda brwdfrydedd. Felly, doeddwn i ddim yn cefnogi pobl eraill, roeddwn ni’n cymryd rhan gyda nhw fel cymheiriaid.
00:01:30 Lauren Golding
Hyfryd.
Sut olwg oedd ar Discovery a beth oedd yr awyrgylch yn ystod eich amser chi? Ydych chi’n cofio beth oedd strwythur y sefydliad?
00:01:38 Carol Shephard
O, mae hynny’n ddiddorol iawn.
Dw i’n cofio, ar ddechrau'r flwyddyn, byddai digwyddiad mawr yn ystod Wythnos y Glas. Felly byddai SVS, sef Gwasanaeth Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe, yno. Mae wedi newid enw ers hynny. Dw i byth yn cofio pa ffordd rownd oedd hi, ond yn ystod yr amser roeddwn i yno, newidiodd ei enw oherwydd bod ail-lansiad, ail-lansiad mawr yn ystod fy mlwyddyn olaf. A dw i’n cofio, ac mae gen i’r crys T o hyd.
A dw i’n cofio rhywfaint o gyllid yn dod mewn ar y pryd hefyd. Roedd myfyriwr o’r enw John Evans roeddwn i’n ffrindiau gydag e. Roedd e’n iau na fi. A dw i’n cofio, roedd e wedi bod yn America.
Felly dw i’n cofio’r sesiynau yn ystod Wythnos y Glas. Dw i’n cofio'r un gyntaf achos bod Phil, sef fy ngŵr erbyn hyn, a’i ffrind Pete gwnes i weithio gydag ef ers blynyddoedd maith, gwnaethon nhw drefnu hynny. Cawson nhw eu cyflogi i drefnu gweithgareddau dod i adnabod eich gilydd, neu dorri'r iâ. A galla i eu cofio’n glir yn cynnal y gemau a chael pawb yn sgwrsio ac yn symud o gwmpas a gwneud pethau eithaf gwirion gyda’n gilydd.
A dw i’n cofio yn ystod fy mlwyddyn olaf mynd i weithdy gyda John am ganeuon gallwch chi eu defnyddio os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc ar brosiectau gwirfoddoli. A dw i’n meddwl dysgodd e’r caneuon hyn pan oedd ar y gwersylloedd hyn yn America'r haf cyn hynny.
Dw i’n cofio roedd swyddfa, ond dw i ddim yn meddwl es i yno’n aml iawn. Efallai ar gyfer Kids Away, roedd yn rhaid i mi fynd i gasglu allweddi fan a chyflwyno adroddiad neu alla i ddim â chofio, ond bendant doedd hi ddim yn swyddfa fawr fel nawr.
00:03:13 Lauren Golding
Allwch chi ddweud ychydig yn fwy am eich taith Kids Away?
00:03:17 Carol Shephard
Iawn, felly’r prif beth dw i’n ei gofio, a bob amser wedi’i gofio, oedd rhywun yn rhoi allweddi'r bws mini i fi. A byddwn i wedi bod yn 21 oed, falle 22. Dysgais i yrru pan oeddwn yn 17 oed achos dyna wnaeth pawb yn y 1980au. Dyna oedd eich anrheg ar gyfer eich pen-blwydd yn 17. Ond doeddwn i ddim wedi gyrru llawer achos des i i’r brifysgol yn 18 oed a doedd dim car gen i pan oeddwn i yno, a oedd hefyd yn eitha’ normal. Felly, chi’n gwybod, byddwn i’n gyrru car dad pan oeddwn i gartref.
Felly es i bant gyda’r bws mini yma yn gyrru o gwmpas Townhill, yn casglu plant gyda myfyriwr arall oedd yn gwirfoddoli gyda map. Map papur. Roeddwn ni’n trio canfod ein ffordd ar hyd y bryniau serth yma a’r rhwydwaith o strydoedd. Ac yna byddwn ni’n pentyrru'r plant yma i mewn i’r bws mini. A dw i’n gwybod fy mod i wedi dangos y llun i chi oherwydd pan ddes i o hyd i'r lluniau, roedd yn bach o sioc fod y seddi yng nghefn y bws ond yn feinciau.
Ond eto, roedd hynny’n gwbl arferol ar y pryd. Dyna wnaethoch chi. Dyna sut oedd bysys mini.
A galla i gofio gyrru i lawr y draffordd ac roedd hynny’n iawn. Ac yna ceisio canfod fy ffordd o gwmpas Bryste, a doeddwn i ddim yn gyfarwydd â Bryste, a’r holl blant ‘ma yn y cefn a’r bws mini ‘ma. Roeddwn i’n gobeithio y byddai'r gyrwyr eraill yn gweld taw bws mini myfyrwyr oedd e a’u bod yn cymryd yn ganiataol fy mod i’n gwybod i le roeddwn i’n mynd.
Felly yn amlwg roedd hynny bach yn drawmatig i fi achos dw i’n ei gofio o hyd.
Ond y peth arall dw i’n ei gofio’n glir oedd gwneud llwyth o wahanol bethau gyda’r bobl ifanc hyn a’u bod nhw’n gyffro i gyd. Felly mynd i’r parc, mynd i'r sŵ, mynd i’r traeth a chwarae gemau. Aethon ni nofio. Alla i ddim â chredu'r holl bethau byddwn ni’n llwyddo eu gwneud mewn penwythnos.
00:05:00 Lauren Golding
Gwych.
Oes unrhyw atgofion arbennig eraill gennych o’ch amser gyda SVS?
00:05:07 Carol Shephard
Wel, byddwn i’n dweud y gweithdai ar fore Sadwrn, stori dw i wedi’i hadrodd sawl tro, ond dw i’n credu bod hi’n dangos pa mor werthfawr oedd hynny i fi. Felly, dechreuais i wneud hynny yn fy ail flwyddyn. Dw i’n credu roedd y flwyddyn gyntaf bach yn ormod i gymryd mewn, ond erbyn yr ail flwyddyn rydych chi wedi setlo, ac yn gwybod faint o amser sydd gyda chi.
Felly ar gyfer y peth yma ar fore Sadwrn, roedd yn berffaith i fi achos penderfynais i gymryd bore Sadwrn i ffwrdd o waith y brifysgol, ond roedd yn golygu y byddwn i lan yn y bore ac allan yn mynd i wneud rhywbeth. A doeddwn i ddim yn rhy hoff o godi gyda’r bore. Ond roedd yn brosiect yn hwyl ac yn gwneud daioni ac roeddwn i’n mwynhau digon i wneud i fi eisiau codi a mynd mas ar fore Sadwrn.
Dw i’n cofio gwneud cysylltiadau â’r bobl leol ac yn benodol â rhai o’r oedolion anabl a fyddai’n dod i’r prosiect.
Felly fel soniais i o'r blaen, cyn i fi fynd i ffwrdd ar gyfer fy nhrydedd flwyddyn achos roeddwn i’n fyfyriwr ieithoedd. A dw i’n gwybod pan ddes i nôl ar gyfer fy mlwyddyn olaf, roeddwn i’n bryderus iawn, ac un o’r pethau roeddwn i’n gwybod oedd bod angen i fi wneud oedd mynd i Ffair y Gleision a Gweithredu Cymunedol Myfyrwyr fel yr oedd ar y pryd, Discovery nawr. A yw’r gweithdy celf a chrefft yn dal i fynd? Mae’n dal i fynd? Achos roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud hynny eto ac roeddwn i eisiau gweld y bobl hynny.
Ac roeddwn i’n ceisio cofio enwau'r bore ‘ma a dw i’n gwybod bod Gavin a Tim, a James a Barbara sy’n dal i fod yn glir yn fy meddwl. Roeddwn ni i gyd mor falch o weld ein gilydd eto. Felly ie, dw i’n credu bod hynny’n rhoi blas ar bwysigrwydd hynny i’m bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
00:06:52 Lauren Golding
Gwych.
Allwch chi ddweud ychydig wrtha i am sut mae eich amser gyda SVS wedi effeithio ar eich bywyd ers hynny? Ydych chi wedi parhau i wirfoddoli? Oes unrhyw sgiliau y cawsoch chi o’r adeg yna rydych chi’n dal eu defnyddio?
00:07:06 Carol Shephard
Bendant, mae gwirfoddoli yn sicr wedi parhau i fod yn rhan bwysig o’m bywyd.
Roeddwn i’n meddwl am hyn cyn i fi ddod i siarad â chi a sylweddolais i pan oeddwn i’n blentyn, roedd fy nhad yn gwirfoddoli bob wythnos mewn clwb ieuenctid lleol lle’r oeddem ni’n byw. Felly roedd hynny’n normal iawn. Roedd fy nhad yn gweithio yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn, byddai’n mynd i’r clwb ac weithiau byddwn ni i gyd yn mynd i helpu os oedd angen help arnynt ar gyfer digwyddiad neu rywbeth. Felly roedd hynny’n rhan o’m mywyd, roeddwn i eisoes yn gwybod dyna oedd rhai pobl yn ei wneud.
A dw i’n credu dyna’r hyn wnaeth fy ysgogi i ganfod pethau, rhywbeth yr hoffwn i'w wneud. Ond ie, dw i wedi bod yn rhan o sefydliadau bach lle weithiau dw i wedi gwirfoddoli neu dw i wedi cefnogi eraill i wirfoddoli.
A'r stori fawr arall sbo oedd bod person yn rhedeg gweithdai, jyst rhywun a oedd yn rhedeg y gweithdai, ond flynyddoedd wedi hynny ar ôl i fi orffen fy ngradd, cwrddais i ag e eto a diweddais i lan yn ei briodi, a ‘dyn ni’n briod o hyd. Felly mae wedi cael effaith eitha’ mawr a dweud y gwir.
00:08:11 Lauren Golding
Bendant.
Gwych. Oes unrhyw beth arall hoffech chi sôn amdano cyn i ni orffen?
00:08:19 Carol Shephard
Ie, dw i’n credu fy mod i’n meddwl am beth wnaeth ffrindiau eraill, a sut yr oedd yn eitha’ normal bod pobl yn gwneud rhyw fath o wirfoddoli pan oeddwn ni’n fyfyrwyr.
Felly, fy ffrind gorau, dw i’n credu bod hyn yn ddoniol iawn. Rachel oedd fy ffrind gorau, roeddwn ni’n rhannu fflat, a gofynnais iddi hi a oedd ganddi atgofion, achos dw i’n cofio hi’n mynd ar brynhawn dydd Mercher i'r YMCA a gwneud rhyw fath o brosiect llythrennedd i oedolion. A phan siaradais i â hi, dwedodd hi o mawredd! Roedd hi wedi anghofio am hynny. Ac roedd hi’n cofio bod pobl a oedd wedi dod allan o’r carchar gyda sgiliau llythrennedd isel iawn. Ac felly roedd yn brosiect yn cefnogi hynny.
Ac felly roeddwn i’n meddwl bod hynny’n eitha diddorol, roedd yn beth pwysig. Ond iddi hi, roedd hi wedi anghofio. Ond hefyd fod pobl eraill a chwaraeodd rôl enfawr a throi’n gydlynwyr prosiect a phethau fel ‘na hefyd.
00:09:18 Lauren Golding
Gwych.
Diolch yn fawr iawn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment