Skip to main content

Interview with Charlotte C, 12th March 2026

Disgrifiadau

Cyfweliad â Charlotte C, 12 Mawrth 2026

00:00:00 Belle 

Helô, Belle ydw i o Discovery a 12 Mawrth 2026 yw hi heddiw a dw i yma gyda Charlotte yn nigwyddiad pen-blwydd Discovery yn 60 oed.

Felly, os ydych chi’n fodlon Charlotte, allwch chi ddweud wrtha i am eich cysylltiad chi â Discovery?

00:00:12 Charlotte 

Gallaf, wrth gwrs.

Felly dechreuais i gyda Discovery yn 2014. Roeddwn i’n fyfyriwr yma yn yr ail flwyddyn a gwnes i interniaeth cyfryngau am ychydig o fisoedd ac yna cwympais i mewn i wirfoddoli hefyd tra oeddwn i yma achos bod gwirfoddoli mor wych.

Yn y diwedd, es i i Siavonga, yn Zambia, gyda Phartneriaeth Siavonga Abertawe yn 2015 ac yna des i i fod yn ymddiriedolwr. Roeddwn i’n ysgrifennydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac roedd hynny’n flwyddyn hollol wych, a phrofiad penigamp. Ac yna pan ddes i’n ôl o Zambia, bues i’n Gydlynydd Prosiect i Bartneriaeth Abertawe Siavonga, felly roeddwn i’n mynd i mewn i ysgolion ac yn gwneud ychydig o gyfnewid diwylliannol gyda’r plant yma gyda’r stwff dysgon ni yn Zambia.

Ychydig o bopeth a dweud y gwir.

Hefyd, creais i raglen ddogfennol 10 munud o hyd fel rhan o’m cwrs pan oeddwn i’n gwneud fy ngradd meistr am y cynllun Gwirfoddoli â Chymorth. Felly, roeddwn i’n adnabod Sean yn dda, a phawb arall.

A nawr dyma fi, nôl yma ddeng mlynedd yn hwyrach. Ar ôl helpu gyda’r digwyddiad 50 mlynedd, ddeng mlynedd yn ôl, dw i nôl yn dathlu 60 mlynedd fel gweithiwr prosiect.

00:01:11 Belle 

Gwych.

Felly gallwn ni ddweud bod gennych chi gysylltiad cryf â Discovery.

Felly, allwch chi ddweud wrtha i ychydig am strwythur y sefydliad?

00:01:19 Charlotte 

Wrth gwrs. Felly, dw i ddim yn dda gyda mathemateg, ond dw i’n credu bod pump ohonom ni’n aelodau staff.

Felly, Eleanor yw'r CEO ac yna dw i’n gweithio gyda Vixie gyda’r prosiectau a Chydlynwyr Prosiectau sy’n fyfyrwyr. Ac yna’n amlwg mae Kirsty a Sian, felly pump o staff craidd.

Ac wedyn mae’r gweddill yn cael ei redeg gan fyfyrwyr yn gyffredinol. Felly'r myfyrwyr sy’n rhedeg y prosiectau. Mae gyda ni ymddiriedolwyr sy’n fyfyrwyr. Mae gyda ni ymddiriedolwyr nad ydynt yn fyfyrwyr. Mae’n cael ei arwain yn bennaf gan gymuned Prifysgol Abertawe.

00:01:49 Belle 

Gwych.

Ac felly yn amlwg dw i’n gwybod eich bod chi newydd sôn bod gennych chi brofiad cyn COVID gyda Discovery ac yn dilyn COVID. Felly allwch chi ddweud wrtha i am y newid rydych chi wedi’i sylwi rhwng y ddau gyfnod yna neu a oes unrhyw newid wedi bod o gwbl?

00:02:01 Charlotte

Cwestiwn da.

Dw i’n meddwl yn ôl i’r adeg roeddwn i’n gwirfoddoli yn 2015, ac roedd popeth yn tueddu i fod wyneb yn wyneb. Doedd dim hyfforddiant ar-lein neu'r fath hynny o beth ar y pryd. Pan oeddwn i’n gwneud hyfforddiant i fod yn ymddiriedolwr, roedd hi fel bod mewn rhyw dŷ ysbryd yn rhywle. Ac [?] o gwmpas yma am ddau ddiwrnod. Ond nawr mae'r hyfforddiant i fod yn ymddiriedolwr yn digwydd dros benwythnos, ond rhyw le lleol, nid dros nos.

Rydym yn cynnal llawer o gyrsiau ar-lein, llawer o hyfforddiant ar-lein nawr. Felly, dw i’n meddwl, hyd y gwn i, y daeth integreiddio pethau ar-lein allan o COVID.

Ond, dw i’n meddwl bod y myfyrwyr yn ymddangos i fod yn wahanol nawr. Ond y peth sydd heb newid yw bod myfyrwyr yn dal i ddod ac maent yn frwdfrydig iawn. Mae’r rhai sy’n frwdfrydig iawn am wneud popeth ac yn ysu am helpu. Mae’n beth da i weld.

00:02:47 Belle 

Yn mynd yn ôl i’r hyn ddywedoch chi am eich amser gyda’r Bartneriaeth Siavonga, allwch chi ddweud ychydig yn fwy am hynny? Achos mae hynny’n ddiddorol iawn.

00:02:54 Charlotte 

Gallaf, wrth gwrs. Felly pan oeddwn i’n gwneud yr interniaeth, dywedodd Kirsty y dylwn i fynd ac i ddechrau dwedais i na achos bod ofn arna i ac nid oeddwn i wedi bod ar awyren o’r blaen. Ond yn y diwedd, es i amdani a chytuno mynd, ac roedd am gyfnod o fis i Siavonga yn Zambia, sydd fel De Zambia, dw i’n meddwl. Ond peidiwch â dibynnu ar hynny, achos dw i ddim yn wych gyda daearyddiaeth.

Roeddwn ni yno am fis ac roedd yn gyfnewid diwylliannol. Gwnaethon ni’r math arferol o bethau, chi’n gwybod, paentio ysbytai a’r math yna o beth. Ond gwnaethon ni weithdai hefyd gyda'r grwpiau i fenywod draw ‘na. Felly dysgon ni amdanyn nhw. Un o'r gweithdai a wnaethon ni a’i arwain oedd am hawliau menywod. Gwrandawon ni arnyn nhw a siarad â nhw am eu syniadau nhw o beth oedd hawliau menywod. A siaradon ni â nhw am ddeddfau hawliau menywod yma, a phethau felly.

Cynhalion ni weithdy creu breichledi draw ‘na. Llwyth o bethau bach gyda’r menywod draw ‘na. Roedd yn brofiad hollol wych ac agorodd fy llygaid yn llawn i’r byd ond hefyd i fi fy hun hefyd. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli fy mod i’n ddigon dewr i dreulio mis mewn gwlad arall pan dw i’n berson sy’n tueddu i ofni popeth.

Roedd yn wych.

00:04:06 Belle 

Felly oes gennych chi unrhyw brosiectau eraill rydych chi wedi bod yn rhan ohonynt, neu hoff brosiectau?

00:04:11 Charlotte 

Wel, ar gyfer y digwyddiad 50 mlynedd, ddeng mlynedd yn ôl, cynhalion ni ddigwyddiad o’r enw’r Paentiad Mawr lle paention ni'r cyntedd yn Nhŷ Cyfeillgarwch, dw i’n credu taw dyna oedd yr enw. O, alla i ddim â chofio, falle nad hynny oedd hi. Alla i ddim â chofio’n union. Mae adeilad yn rhywle bwys y dref, dw i’n siŵr gallaf ddod o hyd iddo, lle ail-baention ni’r holl gyntedd dros ddau ddiwrnod yn ystod y digwyddiad 50 mlynedd. Ac roeddwn i’n gweithio gyda Rachel a oedd yn athrawes ar y pryd ac yn artist a chawson ni'r syniad o sut olwg allai fod ar yr ystafell oherwydd ei bod hi’n arwain at ystafell synhwyraidd ac ystafell gerddorol felly roedd cyntedd synhwyraidd mawr ac roedd hynny’n llawer o hwyl. Dw i’n dwlu ar baentio, dw i’n dwlu ar fod yn greadigol ac roedd yn llawer o hwyl cael arwain prosiect fel myfyriwr. Roedd yn rhyw fath o DIY neu 60 Second Makeover.

00:04:57 Belle

Ac allwch chi ddweud wrtha i am sut mae eich amser gyda Discovery wedi effeithio ar eich bywyd y tu allan i Discovery, fel yn y sector gwaith neu’n bersonol?

00:05:06 Charlotte

Ie, wrth gwrs.

Yn bersonol, dw i’n meddwl fel myfyriwr, dyna oedd fy lle diogel cyntaf lle roeddwn i’n teimlo bod pobl yn fy nerbyn ac yn fy neall ychydig yn fwy. Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i’n awtistig neu fod gen i ADHD ar y pryd yn fyfyriwr, ond roeddwn i’n gwybod fy mod i’n teimlo’n ddiogel yno ac roedd yn lle braf lle’r oedd pawb yn groesawgar ac yn gyfeillgar. A ches i'r cyfle i roi cynnig ar bethau. Fyddwn i byth wedi mynd i Zambia fel arall. Fyddwn i byth wedi gwneud gwaith cydlynu prosiect. Fyddwn i byth wedi bod yn ymddiriedolwr. Yr holl bethau hynny fyddwn i byth wedi cael y cyfle i wneud a gweld a phrofi.

Ac yna wrth adael ar ôl fy ngradd meistr, ym mhob cyfweliad, roedd fel seren aur ar fy CV, wedi bod yn ymddiriedolwr, wedi bod yn gydlynydd prosiect, mae’n codi ym mhob cyfweliad ac mae pawb o hyd yn ymddiddori yn yr hyn a wnes i gyda Discovery. Felly mae hi bob amser wedi bod yn rhywbeth sy’n disgleirio ar fy CV mae pobl yn y cyfweliad wedi dwlu arno ac wedi gofyn amdano.

Ond hefyd yn bersonol, rhoddodd yr hyder i mi ar y dechrau fi’n credu. Ers gadael Discovery, dw i bob amser wedi gweithio yn y trydydd sector. Dw i byth wedi gadael y trydydd sector. Dw i’n dwlu ar y sector elusennol nawr. Mae wedi sbarduno fy nghariad at hynny, dw i’n credu.

Ond daeth llawer o’m hunanhyder a’m nealltwriaeth o fi fy hun o Discovery, heb os. Mae Discovery fel cartref i mi nawr. Dw i’n dwlu ar Discovery. A dyna pam roeddwn i wir am ddod nôl a nawr dw i’n gweithio yma, sy’n wych.

00:06:22 Belle 

Gwych.

Felly gair i gloi'r cyfweliad, pe bai angen dewis un gair i ddisgrifio Discovery, beth fyddai'r gair hwnnw?

00:06:29 Charlotte

I fi, byddwn i’n bendant yn dweud cartref.

00:06:33 Belle 

Gwych.

A pham mae hynny?

00:06:35 Charlotte 

Oherwydd ei fod yn teimlo fel cartref. Fe oedd pan oeddwn i’n fyfyriwr. Roedd hyn yn oed dod yma am y tro cyntaf fel intern, roedd gen i deimlad cryf taw dyma fan lle roeddwn i’n ddiogel. A nawr yn dod nôl ddeng mlynedd yn hwyrach, dw i’n dal i deimlo fel ei fod yn lle dw i’n ddiogel ynddo a lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac mae pawb yn cael eu derbyn ac yn cael rhywle i ddechrau.

00:06:53 Belle 

Gwych, wel diolch yn fawr iawn i chi am siarad â mi ac ie, diolch.

Owner:
Discovery SVS
Crëwr:
Discovery SVS
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
10/6/2026
Date originally created:
12/3/2026
Gwelediadau:
16
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment