Hanes Ashley
Disgrifiadau
Adeiladu pontydd rhwng hunaniaethau – Hanes Ashley
Cefais fy ngeni a’m magu yn Barcelona gyda fy mrawd iau. Roedd fy rhieni wedi symud yno o Ecwador pan oeddent yn eu hugeiniau, gyda rhai aelodau eraill o’r teulu. Roedd bywyd yn teimlo’n sefydlog tan imi droi’n bymtheg oed, pan wnaeth fy nheulu’r penderfyniad anodd i symud gwlad. Symudon ni i Reading yn Lloegr, lle oedd popeth yn teimlo’n gwbl estron i mi.
Roedd y newid yn sioc, ond hefyd yn gyfle. Roedd rhaid imi addasu’n gyflym i iaith newydd, diwylliant newydd, a system ysgol newydd. Roedd fy rhieni’n dal i ddysgu Saesneg, felly roeddwn i’n aml yn eu helpu i ymdopi â bywyd bob dydd, tra’n canolbwyntio ar wneud yn dda yn y coleg. Pan ddaeth hi’n amser gwneud cais am brifysgol, roeddwn i’n gwybod nad oedd Llundain yn opsiwn realistig yn ariannol. Roeddwn i eisiau lle prysur ond fforddiadwy, ac roedd Caerdydd yn teimlo’n iawn. Roedd y ffaith bod fy mhartner wedi dewis Prifysgol Abertawe hefyd wedi fy nenu i Gymru.
Dw i’n cofio’r daith i Gaerdydd yn glir iawn. Roedd ein teulu cyfan wedi gwasgu ar goets National Express gyda’n holl fagiau. Cyrhaeddon ni’n gynnar yn y bore, cymryd tacsi drwy’r ddinas, ac wedyn sylweddoli ein bod wedi cymryd llwybr hir a drud iawn i gyrraedd fy llety. Ond roedd yn teimlo fel antur. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, doedd gennym ni ddim llawer o gyfle i deithio, felly roedd ychydig ddyddiau gyda’n gilydd mewn gwesty cyn dechrau’r tymor yn arbennig iawn.
Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae Cymru’n teimlo fel cartref. Daeth y teimlad hwnnw drwy gymuned, tirwedd, a’r eiliadau bach hynny o berthyn. Un bore, wrth feicio i’r Mwmbwls, gwyliais blant yn chwerthin, cŵn yn rhedeg o flaen prams, a chymdogion yn cyfarch ei gilydd wrth y môr. Wrth sefyll yno, yn edrych dros y dŵr, teimlais yn dawel ac yn gadarn mewn ffordd nad oeddwn i wedi’i theimlo o’r blaen.
Yn ystod fy hyfforddiant meddygol, dyfnhaodd fy nghysylltiad â Chymru. Mae un lleoliad yn Ysbyty Llwynhelyg yn sefyll allan. Daeth mam oedd yn siarad Cymraeg â’i phlentyn i mewn, a’r ferch oedd yn cyfieithu yn ystod yr ymgynghoriad. Gwelais fy hun yn y foment honno. Roeddwn i wedi cyfieithu i fy rhieni fy hun sawl gwaith wrth dyfu i fyny. Roedd rhywbeth a arferai deimlo fel baich bellach yn teimlo fel gofal. Ceisiais ychydig eiriau Cymraeg, bore da a shwmae, a newidiodd yr awyrgylch ar unwaith. Cam bach oedd e, ond fe greodd ymddiriedaeth a pharch.
Wrth gwrs, dw i’n dal i golli pethau. Cynulliadau teuluol yn Sbaen ac Ecwador. Y bwyd, y sbeis, y cynhesrwydd. Ond mae Cymru wedi rhoi rhywbeth gwahanol i mi. Cyfeillgarwch cryf, cymunedau cefnogol, a rhythm bywyd wedi’i siapio gan y môr a chan garedigrwydd pobl.
Wrth edrych ymlaen, dw i’n gweld fy hun yn dod yn feddyg, efallai mewn meddygaeth frys neu anesthesia. Efallai y byddaf yn hyfforddi dramor am gyfnod, ond dw i’n gwybod fy mod eisiau dychwelyd. Dw i’n dychmygu cerdded ci yn y dyfodol ar hyd y traeth, y tonnau wrth fy nhraed a’r machlud ar fy wyneb. Mae’r ddelwedd honno’n teimlo fel cartref.
Dydy fy stori ddim jyst am symud rhwng gwledydd. Mae’n ymwneud â dysgu perthyn. Am gyfieithu, yn llythrennol ac yn ddiwylliannol. Am adeiladu pontydd rhwng hunaniaethau. Dydy cartref ddim wedi’i glymu wrth fap. Mae’n cael ei adeiladu drwy ofal, cysylltiad, a chael eich gweld.
Yr hyn dw i’n ei werthfawrogi fwyaf am Gymru yw bod pobl yn gofyn, “O ble wyt ti?” nid i farnu, ond i wrando. Mae’r cwestiwn hwnnw’n rhoi lle i mi fod yn gyfan gwbl fi fy hun. Doeddwn i ddim wastad yn teimlo hynny mewn mannau eraill.
Dw i’n ddiolchgar. Am y cyfle i astudio heb orfod jyglo sawl swydd. Am y systemau cefnogaeth a’m helpodd i ffynnu. Cyn bo hir, byddaf yn graddio fel meddyg, y cyntaf yn fy nheulu. Gweithiais yn galed, ond allwn i ddim fod wedi gwneud hyn heb i Gymru roi cyfleoedd i mi a chredu yn fy mhotensial.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment