Stori Luret
Disgrifiadau
Roedd hi’n fore oer oedd hi pan gyrhaeddais Gymru gyntaf. Rwy'n cofio camu oddi ar yr awyren yn oriau mân y bore, yn flinedig ac yn eithaf dryslyd, gan deimlo fel alltud yn y wlad newydd hon. Roeddwn i wedi clywed llawer am Gymru o'r blaen, ond doeddwn i dal ddim yn gallu ei dychmygu'n iawn. Wedi'r cyfan, roeddwn i ond wedi dychmygu’r DU fel un wlad fawr, gyda Llundain ei chanol. Roedd fy nhaith o Nigeria wedi'i gyrru gan awydd am newid, ond nid dim ond yr addewid o amgylchedd newydd oedd yn apelio ataf; roedd yn gyfle i gyfrannu at rywbeth mwy, i weithio tuag at achos roeddwn i’n credu'n ddwfn ynddo.
Cyn cyrraedd yma yng Nghymru, roeddwn i'n byw yn Jos, dinas hyfryd yng nghanol Talaith Llwyfandir Nigeria. Mae'n lle hardd gyda bryniau tonnog, tywydd oer, a chymuned glos. Mewn sawl ffordd, roedd Jos yn fy atgoffa o Gymru, yn enwedig gyda'i gwyrddni a'i phobl gyfeillgar. Cefais fy magu yno, es i'r ysgol, ac yn ddiweddarach dychwelais i addysgu ym Mhrifysgol Jos. Ond er gwaethaf fy mrwdfrydedd dros feddygaeth a'r gwaith a wnes i ym maes iechyd cymunedol, nid oedd rhywbeth yn teimlo'n hollol iawn. Ond newidiodd cyfarfyddiad mewn ysbyty cenhadol fy safbwynt yn llwyr a sylweddolais na allai meddygaeth glinigol fynd i'r afael â'r materion dyfnach - ac yn aml, cymdeithasol-ddiwylliannol - a oedd yn effeithio ar y bobl roeddwn i’n gofalu amdanynt ar ei phen ei hun. Dyna pryd penderfynais i symud tuag at iechyd y cyhoedd, gan chwilio am ffordd i gael effaith fwy.
Ond ar ôl teimlo’n eithaf rhwystredig gyda fy sefyllfa gartref, penderfynais i edrych y tu allan i fy ngwlad i am bosibiliadau eraill. Nid oedd y syniad o PhD mewn iechyd cyhoeddus yn ymddangos yn realistig—sut allwn i fforddio hynny? Ond roeddwn i'n benderfynol o ddod o hyd i gyfle wedi'i ariannu, ac ar ôl rhywfaint o ymchwil, fe wnes i gais. Newidiodd y penderfyniad hwnnw bopeth. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roeddwn i ar awyren, yn mynd i Gaerdydd i ddechrau taith na allwn i wedi breuddwydio amdani.
Roedd cyrraedd Cymru yn swreal. Byddaf i byth anghofio’r noson gyntaf pan laniais am 2am. Roedd y ddinas yn dawel, bron yn frawychus, ac roeddwn i’n teimlo cymysgedd o gyffro ac ofn. Yr unig gysur oedd y gefnogaeth a gefais gan Brifysgol Caerdydd, a oedd wedi trefnu i fentor fy arwain drwy’r broses gyrraedd. Wrth i mi wneud fy ffordd i’r llety myfyrwyr, des i ar draws grŵp o fyfyrwyr cyfeillgar a gynigiodd helpu gyda fy magiau trwm. Gadawodd y weithred syml o garedigrwydd argraff barhaol arnaf. Cefais i groeso gan bobl a oedd yn fodlon mynd allan o’u ffordd i helpu dieithryn, a roedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Ond nid oedd setlo i mewn yn hawdd. Fel newydd-ddyfodiad i Gaerdydd, roeddwn i'n llywio'r ddinas gyda chymorth Google Maps ac yn gofyn i ddieithriaid am gyfarwyddiadau. Un tro, i gofynnais i redwr fy helpu i ddod o hyd i'r ffordd. Roedd eiliadau bach o garedigrwydd yn atgof nad oedd y byd mor anghyfarwydd ag roeddwn i'n ei feddwl ar un adeg. Roedd y ddinas ei hun—gyda'i mannau gwyrdd, ei phensaernïaeth hardd, a'i thywydd dymunol—fel anadl o awyr iach, a chefais gysur wrth wybod bod y tywydd yma, yn oer ac yn wyntog, yn debyg iawn i'r tywydd yn ôl adref yn Jos.
Er gwaethaf yr agweddau cysurus, roedd yna heriau hefyd. Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd dod o hyd i lety yn anodd dros ben. Roedd y farchnad rhentu preifat yn gymhleth, ac roedd y gwaith papur dan sylw yn llethol. Ond, er gwaethaf yr anawsterau, helpodd caredigrwydd y bobl newydd yng Nghymru fi i symud ymlaen.
Er mai dim ond rhan fach o Gymru rydw i wedi cael y cyfle i archwilio—lleoedd fel Bangor, Casnewydd, ac Abertawe—rydw i wedi cael fy swyno gan y dirwedd. Rwy'n gobeithio ymweld ag Aberystwyth yn fuan ar gyfer cynhadledd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o'r wlad hardd hon. Mae'r wynebau cyfeillgar a'r ymdeimlad o gymuned yng Nghymru wedi gwneud iddi deimlo fel ail gartref, ac mae'r bwyd, yn enwedig cacennau cri, wedi bod yn llawenydd annisgwyl!
Ac eto, ni waeth pa mor groesawgar yw'r lle hwn wedi bod, rwy'n colli Nigeria, yn enwedig y bwyd. Does dim byd tebyg i iam wedi'i bwrw, ac nid rydw i wedi cael y cyfle i'w fwynhau ers dros flwyddyn. Rydw i hefyd yn colli awyrgylch clos fy nheulu a rhwyddineb bod yng nghanol pobl sydd wedi fy adnabod drwy gydol fy mywyd. Er fy mod wedi gwneud ffrindiau yma a dod o hyd i gymuned, mae rhywbeth na ellir ei ddisodli am fod gyda theulu a chyfarwyddyd cartref.
Rydw i hefyd wedi sylwi ar fwlch yma, un a allai ymddangos yn fach ond sy’n hynod arwyddocaol mewn gwirionedd—y diffyg bwytai Nigeriaidd yng Nghaerdydd. Mae yna ychydig o leoedd yma ac acw, ond nid yw'r un peth â chael cysylltiad â chartref trwy fwyd. Os byddaf i’n aros yng Nghymru yn y tymor hir, rydw i hyd yn oed wedi meddwl am agor bwyty fy hun, gan gynnig bwyd Nigeriaidd o ansawdd uchel. Ond am y tro, byddaf i’n gwneud y gorau o ymweliadau achlysurol â lleoedd fel City Road, lle gallaf i ddod o hyd i rai o fy hoff fwydydd, a byddaf yn parhau i freuddwydio am y posibilrwydd o lenwi'r bwlch yn y dyfodol.
O ran fy ymchwil, mae hi wrth wraidd fy mywyd yma yng Nghymru. Rwy'n gwneud PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, lle rwy'n canolbwyntio ar brofiadau bywyd menywod mudol sydd wedi cael eu dadleoli'n orfodol. Mae Cymru wedi fy nghroesawu â breichiau agored, a nawr, rydw i am roi rhywbeth yn ôl. Mae hanesion y menywod hyn yn bwysig. Maent yn rhan o fudiad ehangach yng Nghymru, sy'n ymfalchïo mewn bod yn genedl noddfa i'r rhai sydd wedi cael eu dadleoli. Trwy fy ngwaith, rwy'n gobeithio taflu goleuni ar eu profiadau ac eiriol dros y newidiadau polisi a fydd yn helpu i wella eu bywydau.
Yn y pen draw, fy nod yw gwneud gwahaniaeth. Rydw i am bontio'r bwlch rhwng ymarfer clinigol ac iechyd y cyhoedd, ac rydw i am weithio mewn ffordd sy'n fuddiol i bobl Cymru a'r cymunedau mudol sydd wedi ceisio lloches yma. Yn ogystal â’r ymchwil academaidd, rydw i am fod yn y gymuned, yn siarad â phobl, yn ymgysylltu â nhw, ac yn gweld sut allwn ni wneud newidiadau go iawn, pendant gyda'n gilydd.
Mae hi wedi bod yn daith o ddarganfod, o Nigeria i Gymru. Ac er fy mod i'n colli rhai pethau am adref, rwy'n falch o beth rydw i wedi gallu ei gyflawni hyd yn hyn. Rydw i yma i ddysgu, i dyfu, ac yn bwysicaf oll, i roi yn ôl. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwydion, i gymryd naid, hyd yn oed pan fo'r llwybr o'ch blaen yn ansicr. Os gallaf i wneud y daith hon, gall unrhyw un.
A phwy a ŵyr? Efallai ryw ddydd, byddaf i’n gallu helpu i wneud Cymru yn lle gwell i'w holl drigolion, ni waeth o ble maen nhw'n dod. Gam wrth gam, mae newid yn bosibl.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment