Llun o Heather Brewer a Jennifer Middleton, Pencampwriaeth Tennis Paddock Cymru 1954
Disgrifiadau
Casgliad Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd
Llun o Heather Brewer a Jennifer Middleton, Pencampwriaeth Tennis Paddock Cymru 1954
Cedwir yn Archifau Gwent / D6236731
Wedi ei ddigido fel rhan o brosiect #CrowdCymru
Ffotograff du a gwyn yn dangos dwy fenyw ifanc mewn dillad tenis gwyn yn cerdded tuag at y camera. Ar y chwith mewn siwmper a siorts mae Heather Brewer, ac ar y dde mewn sgert fer a chardigan mae Jennifer Middleton. Mae’r ddwy’n cario raced tenis a bagiau llaw bach. Tynnwyd y llun ym Mhencampwriaethau Tenis Lawnt Cymru yng Nghasnewydd yn 1954.
Cynrychiolodd Heather Brewer Bermwda yn y pencampwriaethau ac roedd wedi ennill y gystadleuaeth y flwyddyn gynt. Fe’i ganwyd yn 1931 yn Southport, ac fe symudodd i Fermwda yn 1937. Roedd yn 12fed yn rhestr menywod gorau’r byd, a hi yw’r unig chwaraewr o Fermwda erioed i chwarae yn Wimbledon ac fe gyrhaeddodd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Agored Ffrainc ddwywaith.
Yn anffodus, ni allwn ganfod llawer o wybodaeth am Jennifer Middleton, heblaw ei bod hi wedi cynrychioli Prydain. Mae’n ymddangos iddi rannu teitl Pencampwriaeth 1954 gyda Sachiko Kamo, o Siapan [testun o (1) Facebook]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment