Mae Roland Pritchard, Fferm Castell Weble, Llanrhidian, Gŵyr, yn sgwrsio â Swyddogion y Cynllun Datblygu Gwledig Sian Green a Vicki Thompson am bwysigrwydd digwyddiadau amaethyddiaeth a rhwydweithiau cefnogi'r gymuned ffermio.
Disgrifiadau
Roland: Ie, dwi ddim yn cofio hyn mewn gwirionedd, ond chi’n gwybod, yn amlwg cyn fy amser i, ond yn amlwg roedd cystadleuaeth am y ffermydd oedd yn cael eu cynnal orau, ac enillodd fy nhad a nhad-cu yn 1958, pan dwi’n dweud enillon nhw, ddaethon nhw’n ail yn y gystadleuaeth ar gyfer y fferm orau dros 100 erw. Mae’n dipyn o drueni oherwydd dyw e ddim fel pe bai’n cario mlaen, mae’n drueni nad yw’r gystadleuaeth yn para i fynd.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Pa mor bwysig yw cystadlaethau lleol i’r gymuned ffermio, fel y gystadleuaeth aredig?
Roland: Felly, ie, mae’n braf gweld y pethau bach hyn yn para, ac mae’n dod â ffermwyr ynghyd ac o leia gallwn ni ddod at ein gilydd i gael sgwrs fach a thrafod y pethau da a’r pethau drwg sy’n digwydd achos mae’n edrych fel pe bai’r marts wedi mynd hefyd. Bydden ni’n arfer cwrdd ym Mart Tregŵyr bob dydd Mawrth, ond mae hwnnw wedi mynd nawr, yn anffodus, ac ar gyfer pob mart rhaid mynd yn bellach a phellach i ffwrdd, felly yn amlwg, y mwyaf rydyn ni’n teithio i fart, llai o bobl fyddwn ni’n eu nabod. Mae’n dipyn o drueni, chi’n gwybod, dyna sut mae bywyd wedi mynd, ac mae’n tueddu i fod yn fwy gwrthgymdeithasol, falle bod gwrthgymdeithasol yn air anghywir i’w ddefnyddio, ond mae popeth yn mynd yn fwy unig drwy’r amser, mae’n gymaint obiti.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ac o ran lleoliad y fferm? Hoffech chi ddweud mwy wrthym am natur unigryw’r lle?
Roland: O ran bod ar y morfa, chi’n meddwl?
Cyfwelydd Vicki Thompson: ...y morfa, ond hefyd gyda Chastell Weblai…
Roland: O, iawn, ie, ydyn, ni’n lwcus, rydyn ni’n unigryw iawn a dweud y gwir, o gael castell ar y fferm, yn edrych dros y môr. Mae’r castell yn amlwg yn denu cwsmeriaid, yn enwedig bobl ar eu gwyliau i ddod i ymweld â’r castell, ac wedyn mae gyda ni siop fach sy’n gwerthu iddyn nhw, felly yn amlwg, byddan nhw’n dod i’r castell wedyn falle bydden nhw’n prynu pishyn o gig oen i fynd adref gyda nhw. Mae’n gweithio’n dda gyda’i gilydd, chi’n gwybod.
Cyfwelydd Vicki Thompson: A dwi’n meddwl eich bod chi wedi arallgyfeirio ychydig fel mantais ychwanegol ac i ychwanegu gwerth i’r busnes drwy gynnal digwyddiadau a….?
Roland: Do, dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae digwyddiadau wedi dod atom ni oherwydd y safle’n edrych dros y morfa a’r castell. Ni wedi cael cwpwl o wyliau ar y tir, ac mae Gŵyl Bragdy Gŵyr sy’n dod bob blwyddyn ac mae fel pe bai’n mynd yn arbennig o dda, fel pe bai’n denu lot o fusnes, a bydd llawer o bobl yn dod a phawb yn dweud eu bod nhw’n mwynhau’u hunain yn fawr iawn, ac mae un arall yn digwydd cyn bo hir, mae’n edrych fel pe bai’r tocynnau’n gwerthu’n arbennig o dda ar gyfer hwnnw, felly dwi’n tybio y bydd hi’n benwythnos da arall ymhen pythefnos.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ac o ran pan fydd eich cymuned ffermio angen eich cefnogaeth chi, a chi angen eu cefnogaeth nhw, ydy hynny’n rhywbeth sy’n digwydd ar Benrhyn Gŵyr?
Roland: Dwi’n meddwl yn gyffredinol fod ffermwyr yn eithaf da, a byddai pawb yn helpu’i gilydd ac yn helpu’r pentref a beth bynnag sy’n digwydd, os yw’r pentref yn cael digwyddiad byddan nhw’n gofyn i ni a fydden ni’n coginio cwpwl o fyrgers neu gyfrannu pishyn o oen ar gyfer y raffl, neu beth bynnag, ac rydyn ni wastad yn hapus i wneud hynny, neu beth bynnag, chi’n gwybod, cadw’r ymdeimlad cymunedol i fynd gystal allwn ni. Mae’n anhygoel faint o bobl sy’n fodlon gwneud hynny. A dweud y gwir, mae’n fenter fach neis, ac rydyn ni wastad yn falch iawn o gefnogi’r gymuned leol.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Ffantastig, ac yn olaf, fel ffermwr ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi gan y cyhoedd yn gyffredinol?
Roland: Reit, gadewch i fi feddwl am beth? Ydyn ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein gwerthfawrogi gan y cyhoedd? Dwi’n disgwyl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dweud na, yn basen nhw? Reit, wel mae’n bosib mod i ychydig yn wahanol i bawb, achos rydyn ni’n rhoi ein hunain mas, felly mae’r bobl wedyn yn dod i gysylltu â’r ffarm, ac â’r defaid yn arbennig, a dwi yn meddwl eu bod nhw’n gwerthfawrogi beth rydyn ni’n ei wneud. Efallai fod ffermwyr eraill ddim yn rhoi eu hunain mas gymaint, a’u bod nhw’n teimlo ychydig yn fwy ar goll, a heb sylweddoli’n llwyr beth sy’n digwydd yn y wlad, ond baswn i’n dweud, ydyn, rydyn ni’n cael ein gwerthfawrogi.
Cyfwelydd Vicki Thompson: Da iawn, dwi’n falch, achos rydych chi. Diolch.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment