Cyfweliad gan Sian Green, swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, â Chris Harry Thomas o Paviland Farm, Rhosili, Gŵyr am ganfyddiad y cyhoedd ynghylch parhad ffermio – 6
Disgrifiadau
Cyfwelydd, Sian Green: Sut ydych chi'n credu y mae'r cyhoedd yn ymwneud â chi a sut ydych chi'n ymwneud â'r cyhoedd?Ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi? Ydych chi'n teimlo bod pobl yn eich deall ac yn gwerthfawrogi'r hyn rydych chi'n ei wneud?
CHT: Mae hyn yn mynd i swnio fel petawn i'n ceisio osgoi rhoi ateb uniongyrchol, ond byddwn i'n dweud ydw ac nac ydw. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn meddwl mai nhw sy'n berchen ar dir, ac er bod y ffermwyr amheus yma, sy'n rhedeg o gwmpas y lle, yn trin y tir, mae ganddyn nhw'r hawl.
Rwy hefyd yn credu bod gan ambell i ffarmwr agwedd wael, ac aml yn dweud pethau fel, 'Peidiwch â cherdded ar fy nhir i'. Rwy'n meddwl cyn belled â bod pobl yn gyfrifol... (rydym wedi cael problemau gyda chŵn yn ymosod ar ddefaid a phobl ddim yn codi baw cŵn a sbwriel ar eu holau ynghyd â thwristiaid a phethau fel hyn). Felly, cyn belled â bod y cyhoedd yn bresennol, rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni fel ffermwyr ymateb a bod o help i'r bobl leol sy'n dod yma a dangos y fferm iddynt ac egluro sut mae'r fferm yn gweithio. Rydym wedi bod yn siarad am gynnal diwrnodau agored ac yn y blaen, ac rwy'n credu ein bod yn mynd i dderbyn arian drwy grantiau felly rwy’n meddwl bod dyletswydd arnom i roi rhywbeth yn ôl hefyd. Felly cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, mae gennym tua 3 neu 4 ardal ar y fferm na allwn wneud llawer â nhw, ynghyd â dau beiriant fferm bach ac rydym wedi awgrymu wrth y cyngor, ac wrth ysgolion, efallai fod eisiau iddynt fabwysiadu'r ardaloedd hyn a phlannu gwahanol gnydau ynddynt a gall yr ysgol ofalu amdanynt a phlannu coed bach neu lwyni neu beth bynnag, ond yn amlwg mae tyfu coed yn yr ardal hon yn dipyn o hunllef fel y gwyddom, oherwydd y gwynt a'r halen. Ond rwy'n meddwl bod gan y ddau ohonom lawer i'w wneud o ran y cyhoedd. Rwy'n meddwl ein bod yn ffodus ac rydym yn geidwaid hyn, ond hefyd mae'n rhaid i bobl barchu'r ffaith mai eiddo preifat ydyw, ac rydym yn hapus i bobl ddod, cyhyd a’u bod nhw ddim yn cymryd mantais.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment