Skip to main content

Cyfweliad gan Sian Green, swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, â Chris Harry Thomas a'i wraig, Louisa, o Paviland Farm

Disgrifiadau

Cyfwelydd Sian Green: Felly fe sonioch chi ychydig yn gynt, am, mae’n swnio fel bod cynnyrch lleol yn rhywbeth rydych chi’n bur angerddol yn ei gylch, ai am resymau cynaliadwyedd mae hynny, neu resymau economaidd? Beth dynnodd chi at hynny?
CHT: Dau beth, dwi’n meddwl bod popeth grybwylloch chi, mae’n rhaid iddo fod yn economaidd i weithio. Mae galw economaidd, mae galw yn lleol hefyd. Ond wrth gwrs, mae’r broblem yn codi am eich bod chi’n cystadlu gyda… dwi’n meddwl ei fod yn ddethol fesul cynnyrch, o ran beth rof i yn hynny, oherwydd os allwch chi gael blodfresychen a ddaeth i mewn o Ffrainc am £0.10 yr un, pam ydych chi’n mynd i berswadio rhywun i brynu blodfresychen Gŵyr sydd angen bod yn £2.00 yr un. Felly dwi’n meddwl ei fod yn benodol iawn, ac mae’r bwytai a’r siopau a’u tebyg yn dweud ‘ie, ni eisiau cynnyrch lleol, milltiroedd isel’, yr holl beth yna, mae’n ticio llawer o focsys. Ond mewn gwirionedd, dwi’n meddwl ei bod hi’n amlwg, yn enwedig fod pethau mor anodd nawr i’r bwytai hyn, eu bod nhw’n gorfod torri costau ble bynnag y gallant. Felly dwi’n meddwl, heb ddim amarch iddyn nhw, ond hefyd i ni o ran rheoli i fwyhau, mae rhyw fath o wrthdaro, a gobeithio cawn ni ddod o hyd i ffordd drwodd i’w gwneud hi’n iawn i bawb, naill ai drwy dyfu rhywbeth hollol wahanol neu dyfu stwff hynod ffres sy’n cyrraedd carreg y drws y diwrnod mae’n cael ei gasglu. Ond dwi’n meddwl fod hyn yn beth mwy cydweithredol, a dyna beth rydych chi wedi bod yn gweithio arno gyda’r bwytai hyn.
LHT: Dwi hefyd yn meddwl y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yr ydyn ni’n disgwyl amdano gan Lywodraeth Cymru’n cael effaith yn hyn o beth, oherwydd ar hyn o bryd dyw’r strwythur cymorthdaliadau i ffermwyr ddim wir o fantais i bobl fel ni sy’n ceisio gwneud y peth cywir. Ond gobeithio, ar ôl i Lywodraeth Cymru lansio’r system gymorthdaliadau newydd yna, a dwi’n meddwl taw yn 2025 y bydd hynny. Gobeithio y bydd mwy o anogaeth i ffermwyr symud i gyfeiriad mwy cynaliadwy, sy’n bendant yn dod ar y gweill, ond dydyn ni ddim yno eto.
CHT: Dwi’n meddwl, y peth sylfaenol yna o dorri’n ôl ar wrteithiau a chemegau, rydyn ni’n bendant eisiau dilyn y llwybr yna, a dyna’r holl syniad o ddod â system ffermio gymysg yn ôl, chi’n gwybod? Gyda’n gwartheg duon Cymreig ar y Graig, mae gyda ni fargen gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, ble rydyn ni’n defnyddio ein gwartheg i glirio ardaloedd o redyn ac eithin aeth dros ben llestri’n llwyr, ac maen nhw’n cael eu defnyddio fel y ffordd naturiol o’u cadw dan reolaeth a galluogi i’r holl rywogaethau oedd wedi’u cuddio, os hoffwch chi, dros flynyddoedd maith, i ffynnu unwaith eto. Ac mae hynny fel pe bai’n eithriadol o lwyddiannus. Felly newid y fferm i gyd-fynd â’r amgylchedd felly, ac o ganlyniad, dyna’r rheswm am edrych i gymryd gwerth o’r fferm, mewn ffyrdd gwahanol, er mwyn ei wneud yn gynaliadwy.

Owner:
Swansea Council / Chris Harry Thomas/ Louisa Thomas
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
14
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment