Cyflwyniadau a Pwynt Sain 1_Taith Sain Caer Drewyn
Disgrifiadau
Mae'r pwynt sain cyntaf yn cynnwys y cyflwyniad (gyda'r cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio ffon symudol i glywed y daith), a Pwynt Sain Un sy'n cychwyn ym maes parcio tref Corwen.
Os nad ydych am wrando ar y cyflwyniad, gallwch ddod o hyd i PwyntSain Un ar 2 funud 30 eiliad ar y ffeil uchod.
Mae Pwynt Sain Un yn hirach na'r lleill am ei fod yn eich tywys o'r dref tuag at yr afon a'r Ganolfan Hamdden ble mae Pwynt Sain Dau. (Mae maes parcio yn y Ganolfan Hamdden, felly gallwch gychwyn y daith yma os ydych yn dymuno'i chwtogi).
Yn Pwynt Sain Un cewch glywed cyfweliad â Gordon Heddon o Reilffordd Treftadaeth Llangollen, Raymond Roberts, Daearegwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Heledd Wyn Jones, Swyddog Cadwraeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Allen Baines, hanesydd lleol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment