Doc sych, Port Dinorwic (Y Felinheli)
Doc sych, Port Dinorwic (Y Felinheli)
Disgrifiadau
'Fel y mae ei henw Saesneg, Port Dinorwic, yn awgrymu, datblygwyd pentref pysgota bychan Y Felinheli yn borthladd pwysig ar gyfer allforio llechi Chwarel Dinorwig. Ar y dechrau, cludid y llechi mewn cewyll ar gefn ceffylau i'r Cei Llydan ac oddi yno ar gychod i Gwm-y-Glo ac wedyn ar droliau i Gaernarfon a'r Felinheli. Ym 1824 adeiladwyd tramffordd geffyl i gysylltu'r chwarel a'r porthladd. Ond erbyn 1848-9, datblygwyd ffordd mwy effeithiol fyth o gludo'r llechi, sef rheilffordd trenau stêm Padarn.'
Ffynhonnell: Llawlyfr Amgueddfa Lechi Cymru (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2002), tt. 15-16. Awdur y testun yw Elin ap Hywel.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment