Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ym mis Mehefin 1933, daliodd John Lovell, Mountain Street, Caernarfon, a'i griw o dri, un o'r dalfeydd eog mwyaf yn Afon Menai. Roeddynt yn pysgota gyda rhwyd yn gynnar yn y bore ger y baddondai cyhoeddus pan fuont yn ddigon lwcus i ddal 41 o eogiaid, yn pwyso tua 700 pwys. Oherwydd bod y dŵr mor isel yn Afon Seiont, roedd nifer fawr o eogiaid, yn pwyso bron i 1,500 pwys, yn ystod y tymor pysgota hwnnw.

Credir bod John Lovell a'i griw wedi torri record a osodwyd dros 40 mlynedd yn gynt, pan lwyddodd pysgotwyr y cwch 'Salvation' i ddal tua 500-600 pwys o eogiaid ar un tro.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw