Disgrifiad

Ganwyd Percival Thomas Edwin Rees yn India i deulu o filwyr tua 1885, a dengys cyfrifiad 1901 ei fod yn siarad Cymraeg, Saesneg a dwy o ieithoedd India. Roedd yn byw yng Ngwaelod y Garth, ger Ffynnon Taf, ac ymunodd â'r Gatrawd Gymreig ar 28 Rhagfyr 1914. Am nad oedd yn ddigon tal i ymuno â'r fyddin sefydlog (5' 4") ymunodd ag 'uned bantam' Bataliwn 17. Fe'i dyrchafwyd yn sarjant a bu'n gwasanaethu yn Ffrainc o Fehefin 1916, gan ennill y Military Medal am ei ddewrder yn Bourlon Wood (rhan o Frwydr Camrai) yn Nhachwedd 1917. Ym 1955 soniodd wrth ohebydd am y digwyddiad: "Our battalion was heavily outnumbered and running out of ammunition, so they gave me the medal for going back to bring us some more". Y mae'r gyfres hon o gardiau post yn olrhain gyrfa milwrol Percy yn Ffrainc o Awst 1916, pan oedd yn Loos, tan ddiwedd y flwyddyn. Mae'r cardiau yn dangos mannau yng ngogledd Ffrainc megis Equihen, Houchin, Bruay a Beauval.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw