Ysbyty filwrol Highland Moors, Llandrindod
Ysbyty filwrol Highland Moors, Llandrindod
Disgrifiadau
Cerdyn post o ysbyty filwrol Highland Moors, Llandrindod (a fu gynt yn westy). Ar ôl 1915 fe ddaeth Llandrindod yn ganolfan ar gyfer trin milwyr a oedd yn dioddef o myalgia ('twymyn y ffosydd'), trwy driniaethau fel baddonau twym, tylino'r corff, gwres trydanol ar y croen, triniaeth Chalybeate, a rhyw fath o ffysiotherapi cynnar. Pan oedd y rhyfel yn ei anterth (1917/1918) roedd y sba yn gwneud tua 600 o driniaethau bob wythnos, ac erbyn diwedd y rhyfel roedd 100,000 wedi'u gwneud.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment