Skip to main content

Lluniau o Sgt Percival Rees

Disgrifiadau

Ganwyd Percival Thomas Edwin Rees yn India i deulu o filwyr tua 1885, a dengys cyfrifiad 1901 ei fod yn siarad Cymraeg, Saesneg a dwy o ieithoedd India. Roedd yn byw yng Ngwaelod y Garth, ger Ffynnon Taf, ac ymunodd â'r Gatrawd Gymreig ar 28 Rhagfyr 1914. Am nad oedd yn ddigon tal i ymuno â'r fyddin sefydlog (5' 4") ymunodd ag 'uned bantam' Bataliwn 17. Fe'i dyrchafwyd yn sarjant a bu'n gwasanaethu yn Ffrainc o Fehefin 1916, gan ennill y Military Medal am ei ddewrder yn Bourlon Wood (rhan o Frwydr Camrai) yn Nhachwedd 1917. Ym 1955 soniodd wrth ohebydd am y digwyddiad: "Our battalion was heavily outnumbered and running out of ammunition, so they gave me the medal for going back to bring us some more". Mae'r lluniau hyn yn dangos Percy fel sarjant yn y Gatrawd Gymreig; yn yr iwniform a wisgai yn yr ysbyty tra'n gwella o'i anafiadau; ac un llun (a elwir 'Breuddwyd Milwr')lle arosodir llun o'i fam ar lun o Percy'n darllen llythyr o gartre.

Owner:
Merville Burrows
Crëwr:
Merville Burrows
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
WVP00636
Eitem wedi’i llwytho:
20/4/2011
Date originally created:
28/12/1914 - 11/11/1918
Gwelediadau:
1043
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment