Llun Lilian Hopkins yn iwnifform WAAC
Llun Lilian Hopkins yn iwnifform WAAC
Disgrifiadau
Ganwyd Lilian Hopkins ar 14 Mawrth 1894; cartref y teulu oedd 12 Otto Street, Hafod, Abertawe. Felly roedd hi'n 23 oed wrth ymuno â'r Women's Army Auxiliary Corps ar 18 Mehefin 1917. (Sefydlwyd y WAAC ym 1917 oherwydd pryderon bod dynion a fedrai ymladd yn ymwneud â gwaith gweinyddol yn y fyddin. Felly penderfynwyd recriwtio merched i wneud llawer o'r swyddi hyn). Er nad oedd y rhai a wasanaethai yn y WAAC yn cael eu hystyried yn aelodau llawn o'r fyddin, roedd iwnifform ganddynt, fel y gwelir yn y llun hwn. Gwasanaethodd Lilian yn Wimereux ger Boulogne, Ffrainc.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment