Skip to main content

Llyfr Cofnodion Sefydliad y Merched Llanfairpwll, 1915 [wynebddalen, delwedd 1 o 7]

Disgrifiadau

Daw'r tudalennau hyn o lyfr cofnodion cyntaf Sefydliad y Merched (WI) Llanfairpwll. Dyma'r gangen gyntaf o'r WI i'w sefydlu ym Mhrydain ym 1915. Roedd gwreiddiau'r mudiad yng Nghanada ac roedd y cysylltiad â'r wlad honno yn allweddol i hanes sefydlu'r gangen gyntaf yn Llanfair Pwllgwyngyll. Mewn cynhadledd a gynhaliwyd ym Mangor ym mis Medi 1915, siaradodd Mrs Madge Watt o Ganada ynglŷn ag amcanion a llwyddiannau mudiad y WI yn y wlad honno, ac awgrymodd y dylai merched Cymru ddod at ei gilydd hefyd er mwyn cynorthwyo'r ymdrech filwrol. Ymhlith aelodau'r gynulleidfa ym Mangor yr oedd y Cyrnol R. Stapleton-Cotton, cadeirydd y 'North Wales Agricultural Organization Society' (AOS), a'i wraig, Jane Stapleton-Cotton, o Lanfair Pwllgwyngyll. Mae'n amlwg i araith Mrs Watt wneud cryn argraff arnynt gan iddynt ei gwahodd i annerch cyfarfod cyhoeddus yn y pentref rai dyddiau yn ddiweddarach. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, penderfynwyd sefydlu cangen o'r WI yn yr ardal.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
Archives Department, University of Wales, Bangor
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Cymru, Bangor 2011
Publisher Ref:
GTJ15704
Eitem wedi’i llwytho:
12/4/2011
Date originally created:
11/9/1915
Gwelediadau:
891
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment