Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Fin nos ar 10 Mai 1941, cwympodd awyren Messerschmitt Almaenaidd i'r ddaear ger Eaglesham yn yr Alban. Honnodd y peilot mai ef oedd Rudolph Hess, dirprwy Hitler, a'i fod wedi cael ei anfon â neges i ofyn am heddwch gyda Churchill. Fe'i arestiwyd yn fuan wedi iddo ddisgyn ac fe'i gadwyd mewn nifer o wahanol fannau diogel hyd at ddiwedd y rhyfel pan anfonwyd ef i sefyll ei brawf yn Nuremburg am droseddau rhyfel ac yna'i drosglwyddo i Garchar Spandau.

Rhwng 1942 a 1945, cadwyd Hess yn Ysbyty Milwrol Maindiff Court, Y Fenni, ac un noson, anfonodd landlord lleol ddwy botel o gwrw at y carcharor. Y diwrnod canlynol dychwelwyd labeli un o'r poteli ato gyda llofnod arno a honnir mai un Hess ydyw.

Yn anffodus ceir peth amheuaeth ynglŷn â dilysrwydd y llofnod - efallai mai jôc ar ran un o warchodwyr Hess ydoedd?

Ffynhonnell:
Gwybodaeth yn Amgueddfa y Fenni

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw