Griffith Jones
Griffith Jones
Disgrifiadau
Roedd Griffith Jones yn y 13eg Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Royal Welch Fusiliers), ac fe aeth i Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915. Roedd ei fataliwn yn rhan o’r 38th (Welsh) Division a gafodd orchymyn i gipio Coedwig Mametz oddi wrth y gelyn - a oedd wedi amddiffyn y goedwig yn lew - fel rhan o ymgyrch y Somme. Bu farw Griffith yn y frwydr ar 10 Gorffennaf 1916. Ni chafodd ei gorff ei ddarganfod; mae ei enw ymysg y 72,000 o enwau ar Gofeb Thiepval, yn coffáu’r milwyr a laddwyd ar y Somme sydd heb fod ganddynt fedd sy’n hysbys i ni.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment