Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Eglwys hynafol Sant Tydecho, Mallwyd. Heb os, un o reithorion enwocaf yr eglwys hon oedd Dr John Davies (tua 1567-1644), yr ysgolhaig a'r geiriadurwr. Fe'i penodwyd yn rheithor Mallwyd ym 1604 ac ym 1614 daeth yn gyfrifol hefyd am blwyf cyfagos Llanymawddwy. Roedd yn ramadegydd pwysig: cyhoeddodd Ramadeg Cymraeg yn Lladin ym 1621, sef 'Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta' a Geiriadur Cymraeg-Lladin ym 1632, sef 'Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarium Duplex'. Yn ogystal, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gyfieithu'r testunau Beiblaidd i'r Gymraeg. Treuliodd gyfnod yn cynorthwyo'r Esgob William Morgan gyda'r cyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1599) ac yn ddiweddarach ef oedd yn bennaf cyfrifol am baratoi'r argraffiadau diwygiedig a phoblogaidd o'r Beibl Cymraeg (1620) a'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1621).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw