Cerdyn David Thomas Richards o'r Imperial War Graves Commission
Cerdyn David Thomas Richards o'r Imperial War Graves Commission
Disgrifiadau
Roedd David Thomas Richards o Ferthyr Tudful yn filwr yn y 3ydd / 4ydd Bataliwn Queen's Own (Royal West Kent Regiment). Fe'i lladdwyd ar Ffrynt y Gorllewin ar 20 Mehefin, 1917, yn 29 mlwydd oed. Rhoddodd ei wraig Amy enedigaeth i'w mab William Thomas Richards ar 21 Mehefin, 1917. Dyma lun o David yn ei lifrai a llun o'i fedd a gafwyd gan yr Imperial War Graves Commission. Fe'i claddwyd ym mynwent Bailleul Road East, Pas de Calais, Ffrainc.
Ffynhonnell allanol:
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment